Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gyda'r Hen Feirdd, Carneddog.pdf/6

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y 'Ryri yw'r awyr oera,—yr âr,
A'r oror wir arwa';
Arwr yr awr yw'r eira,
A'i ryw a ry'r rhew â'r ia.
—JONATHAN HUGHES, Pengwern.


XLIII. A gerfiwyd uwchben drws cegin amaethdy.

O fryd na wnewch afradau,—na byw'n gain,—
Byw'n gynil sydd orau;
Er mwyn rhoi mawl i'r Iôr mau
Y rhoddwyd trugareddau.
—Pwy?



XLIV. A wnaed pan ddaeth Mr. Pugh a'r efail bedoli, i hoelio a sicrhau pedolau y ceffyl wrth Mathafarn, Llanwrin.

Profi pedoli pedwar carn—gwineu,
Yfed gwin o fasarn;
Fyth y fo llwydd ar Fathafarn—
Llwydd a fydd hyd ddydd y farn.
—ROBYN DDU DDEWIN.[1]


XLV.Arall, Wrth weld Mr. Pugh a'r efail bedoli chwarddodd y merched, pryd y mdwedwyd ymhellach,―

Y ty lle mae merched teg,
Yn wir a welir yn wag,—
Draenen wen lle mae y mwg,
A nyth brân yn eitha'i brig.
—ROBYN DDU DDEWIN.



XLVI. Pa fath le ydyw Uffern?

Lle noeth i fyw mewn aethfyd,—lle prudd,―
Lle prydyddion hefyd;
A'r gân fo eu hamcan o hyd,―
Anferth fod neb mor ynfyd.

Lle Satan aflan a'i lu,—lle go wael,
Lle gelynion Iesu;
Lle'r dial, lle llwyr dalu,
Lle'r prudd dân,—lle'r praidd du.
—RHYS MORGAN, o Forgannwg.



XLVII. Pwy sy'n Fardd?

Nid bardd pob clerfardd cul arfod—i'n plith,
Sy'n plethu rhimynod;
Nid oes un hardd fardd i fod
Da ei dwf a dau dafod.—

Dau lafn yn yr un safn sech,
Un o nef a'i enwi'n iach;
A'r llall yn chwith, brith a brych,
Ail i fardd, ac wele fwch.
—SION LLEYN, yn 1793.[2]



XLVIII. Tafodi Rhegen yr Yd.

Regen'r yd fawlyd, folwen,—â'i rhegnâd
Mal rhygnu carwden;
Dy nabod, jad aniben,—
Cael dy nyth,—ddown byth i ben.
—ROBERT DAVIES, Nantglyn.[3]



XLIX. Cysur gwely angeu.

Gorweddais, cefais mewn cur―oer ofid,
Arafodd fy natur;
Mewn trymglwy, pwy ond Duw pur,
Cu Iesu all roi cysur?
—WM. EDWARDS, o Ysgeifiog.[4]



L. Gwywiad Gwen.

Tirion gangen Gwen oedd gynau,—dilesg
Yn dwyn dail a blodau;
A'r Wen hon nol hir wanhau
Dengys ol dyrnod angau.
—DAFYDD DDU ERYRI.[5]



LI A adroddwyd yn y wledd wrthyfed y llwncdestyn "Parchus Goffadwriaeth Dewi Sant," ar adeg Eisteddfod fawr Caernarfon 1824.

Sant Dewi sy'n y tywod—yn llechu
Yn lloches y beddrod;
Hen Babydd[6] yn nydd ei nod,―
Ef er hyn fu orhynod.
—PETER EVANS, Caernarfon.[7]



LII. Hunan yn dangos ei hunan.

O'r bachgen hyd yr henwr—mae Hunan
Am ei hynod gyflwr;
O'r mawreddaf, uchaf wr
Ceir hyd at y cardotwr.
—OWEN WILLIAMS.[8]


  1. Pwy oedd yr hen gono yma mewn difrif, a pha bryd yn iawn yr oesai? Gwelais mai brodor o Fon ydoedd. Gelwid Robert Hughes, Ceint Bâch, yr hwn a huna yn Heneglwys yn "Robyn Ddu o Fon," ond nid efe oedd y dewin hwn, fel y ceisia rhai hysbysu. Pwy oedd y Robyn Cludro hwnnw o Langefni?
  2. Bu farw yn 1819, oed 68 mlwydd. yn Denio, Pwllheli.
  3. Bu farw Rhagfyr laf, 1835, oed 66 mlwydd. Awdwr "Diliau Barddas ;" 'Gramadeg Cymraeg," &c.
  4. Bu farw yn 1855, oed 65 mlwydd. Awdwr Cell Callestr."
  5. Bu foddi yn yr afon Cegin, Llanddeiniolen, Mawrth 30ain, 1822, oed 63 mlwydd. Awdwr Corph y Gainc," &c.
  6. Cynhyrfodd yr honiad yma lu o wyr llên yr Eglwys o dan arweiniad J. Blackwell (Alun) i gyhuddo yr awdwr o gabldraeth ofnadwy yn erbyn sant cenedl y Cymry. Bu gorfod iddo, druan, ymddiheuro, neu wynebu costau cyfraith.
  7. Dechreuodd argraffu yng Nghaernarfon yn 1816.
  8. Neu Owain Gwyrfai, y Waen Fawr. Bu farw Hydref 3ydd, 1874, oed 85 mlwydd. Awdwr " Geirlyfr Cymraeg o wybodaeth gyffredinol;" "Hanes y deg Erledigaeth dan Rhufain Baganaidd;" "Y Drysorfa Hynafiaethol," &c.