defigesau o'i drysorau ei hunan, ac nid oedd hyny yn anhawdd iddo, canys yr oedd ganddo yn Ecbatana yn unig gant a phed war ugain a deg o filoedd o dalentau, sef yn nghylch pymtheng miliwn ar hugain o'n harian ni, heblaw trysorfa arall yn Babilon a manau ereill o'i deyrnas. Efe hefyd a arlwyodd wledd arderchog iddynt, yn mha un y dywedir fod dim llai na naw mil o wahoddedigion wedi eistedd wrth y byrddau; ac eto dywedir iddo anrhegu pob un o honynt â chwpan aur, fel y byddai iddynt yfed y gwinoedd o honynt. Yr oedd pobpeth arall ar yr unrhyw raddeg fawreddog; ie, efe hyd yn nod a dalodd ymaith eu holl ddyledion; yn gymaint a bod yr holl dreulion yn cyrhaedd i naw mil, wyth gant a deg a thriugain o dalentau.
EI YSBLEDDACH YN ECTABANA.
Pan oedd Alexander yn Ecbatana ar y daith hon, wedi myned trwy y gorchwyliaethau gwladol mwyaf pwysig, efe a ymroddodd i chwareuyddiaethau a meddwdod gyda'i gyfeillion, ac yfodd yn nghylch deugain o'i benaethiaid eu hunain i farwolaeth, ac yn eu plith Hephastion, ei anwylaf gyfaill, ar ol yr hwn y bu Alexander yn dra galarus; a pharodd groeshoelio ei feddyg am nad allai ei feddyginiaethu, yr hwn a wnaeth ei oreu iddo yn ei glefyd, drwy daer ddymuno arno beidio â chig a gwin, ond y claf ni ddefnyddiodd y cynghor; eithr pan oedd y meddyg wedi myned i'r chwareudy, efe a fwytaodd aderyn wedi ei rostio, ac a yfodd gwpanaid o win; ar ol hyny efe a aeth yn waeth, ac a fu farw yn mhen ychydig ddyddiau. Y mae gwaith Alexander yn croeshoelio y meddyg druan yn arddangos creulonedd mawr ynddo; os nad oedd yn ei gospi mor dost am adael o hono y goddefydd, ac yntau yn y fath berygl dirfawr, i fyned i le mor wagsaw a'r chwareudy.
Yr oedd galar Alexander ar ol ei gyfaill Hephastion yn afresymol. Efe a orchymynodd gneifio y meirch a'r mulod, fel y caffent hwythau ran yn y galar, ac i'r un perwyl efe a dynodd i lawr furganllawiau y dinasoedd amgylchynol. Gwaharddodd hefyd y chwibanogl a phob rhyw gerdd yn ei wersyll am yspaid maith o amser. Parhaodd hyn hyd nes y cafodd genadwri oraclaidd oddiwrth Jupiter Hammon, yr hon a orchymynai iddo fawrygu Hephastion, ac aberthu iddo fel haner dduw. Wedi hyn efe a geisiodd liniaru ei ofid trwy hela, neu yn hytrach trwy ryfel; canys dynion oedd ei helwriaeth ef. Dyma fu yn achlysur
EI RYFEL A'R CASSEAID,
cenedl ryfelgar yn mynyddoedd Media, y rhai ni allodd y Persiaid erioed eu darostwng. Bu ddeugain niwrnod cyn eu llwyr orchfygu; yr hyn a'i cythruddodd i'r fath raddau fel y gorchymynodd roddi i farwolaeth bawb oedd wedi tyfu i fyny i oedran a synwyr. Galwai hyn yn aberth i "ddrychiolaeth" Hephastion! Yna efe a ddychwelodd yn ol dros yr afon Tigris, gan wynebu, gyda'i longau a'i filwyr, tua Babilon, lle derbyniwyd ef yn barchus gan benaethiaid rhan fawr o'r byd; o'r hwn le hefyd y bwriadodd hwylio oddi amgylch Affrica, a chwilio allan y Môr Caspia, a'r gwledydd oddi amgylch iddo, a darostwng yr Arabiaid a'r Carthaginiaid, a dwyn ei fuddugoliaethau hyd Hispaen tua'r gorllewin. Yr oedd hefyd am adferu Babilon i'w mawredd dechreuol, tuag at yr hyn y dechreuwyd cyfodi i fyny dorlanau yr afon Euphrates, yr hon oedd wedi ei hamharu drwy waith Cyrus yn cymeryd Babilon. Dechreuwyd ail adeiladu teml Belus neu Bel, yr hon a ddinystriwyd gan Xerxes; a bu deng mil o filwyr, heblaw y Magiaid, ar waith bob dydd, dros ddau fis, yn clirio y malurion, ac yn y diwedd nid oeddynt wedi gorphen lle addas i'w hail adeiladu, yr hyn sydd yn dangos mawredd yr adeiladaeth hono. Ond ni wnai yr Iuddewon oedd yn myddin Alexander gyffwrdd â'r