Tudalen:Hanes Alexander Fawr.pdf/6

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ar unwaith yn y frwydr. Ond ni wrandawodd Darius ar y cynghor da hwn, am fod Alexander yn ymddangos fel pe buasai yn cilio yn ol, yr hyn a barodd i'r Persiaid bwyso yn mlaen fel y byddai iddynt ddyrysu byddinoedd Alexander yn y bylchau, lle y dechreuwyd ymladd; ond nid allai Darius estyn ei fyddin yn ddim mwy na'r eiddo y Macedoniaid, o ganlyniad trefnodd y fyddin y naill rês o'r tu ol i'r llall. Ond gwroldeb y Macedoniaid yn tori y rhês gyntaf a barodd iddi syrthio ar yr ail, a'r ail ar y trydydd, &c. fel y syrthiodd holl fyddin y Persiaid i annhrefn; yna Alexander yn pwyso yn drwm arnynt yn yr ymladd a barodd iddynt ffoi, ac wrth fathru eu gilydd, bu farw mwy na thrwy gleddyfau y Macedoniaid. Diangodd Darius, yr hwn oedd yn ymladd yn y rhês gyntaf, drwy lawer o anhawsder, ond y gwersyll y'nghyd a'r holl glud, ei wraig, ei fam, a'i blant (y rhai, yn ol arfer breninoedd Persia, a ddygasid i'r rhyfel) a syrthiasant i ddwylaw'r gelyn, a mwy na chan' mil o'r Persiaid yn feirw ar y maes. Gwedi hyn sicrhaodd Alexander iddo ei hun y taleithiau o'r tu ol, gan ychwanegu Syria at ei lywodraeth. Yr oedd gan Darius hefyd dri chant a naw ar hugain o ordderchafon, yn nghyda llawer o bendefigesau, y rhai a yrodd ymaith dan ofal gorsgordd cyn dechreu y frwydr; y rhai hyn oll a fradychodd llywydd Damascus i Alexander, wedi clywed am ffoad Darius. Yn mhlith y rhai hyn yr oedd gwraig weddw Memon, o lendid rhagorol, o'r hon y ganwyd mab i Alexander o'r enw Hercules.

ALEXANDER YN CYMERYD TYRUS.

Y frwydr nesaf i Alexander oedd cymeryd Tyrus, yr hon oblegyd cadernid ei chaerau a orfu iddo warchae arni am saith mis; ond eto nid oedd gan Alexander un ffordd i'w chymeryd heb wneuthur sarn llydan o'r cyfandir hyd ati, canys yr oedd yn sefyll ar ynys yn y môr, ac i'r dyben hyny, cludodd gedrwydd o Libanus, a bwriodd adfeiliau yr hen Dyrus i'r môr, i'r dyben i sylfaenu y sarn, ac hefyd fel y cyflawnid y broffwydoliaeth, Ezec. xxvi. 12. Gorphenwyd y sarn yn mhen saith mis, a chymerwyd y ddinas er gwaethaf gwrthwynebiad y Tyriaid. Y mae y sarn i'w gweled hyd heddyw. Lladdodd Alexander wyth mil o'r Tyriaid wrth gymeryd y ddinas, a mynodd groeshoelio dwy fil, a gwerthodd ddeng mil ar hugain yn gaethweision. Ond achubwyd pymtheng mil yn ddirgelaidd gan y Sidoniaid, mewn llongau, wrth gymeryd y ddinas.

EI YMGYRCH I JERUSALEM.

Y gorchwyl nesaf i Alexander oedd cymeryd Jerusalem, ac i lwyr ddïal ar yr Iuddewon am na ddaethent i'w gynorthwyo yn erbyn Tyrus. Esgus yr Iuddewon oedd eu llw o ffyddlondeb i Darius, ond nid oedd Alexander yn llarieiddio er hyny. Yn y cyfyngder hwn ymostyngodd Jadua yr arch-offeiriad, sef llywydd dan y Persiaid, a holl Jerusalem gydag ef, ger bron yr Arglwydd, mewn gweddiau ac ymbiliau. Yna cafodd Jadua ei gyfarwyddo mewn gweledigaeth, i fyned i gyfarfod Alexander gyda'r offeiriaid yn eu gwisgoedd offeiriadol. Ar ddynesiad y cyfryw offeiriaid at Alexander, cafodd yr olwg arnynt y fath effaith neillduol arno, yn gymaint ag iddo ymgrymu ger eu bron gyda pharch crefyddol, er syndod i'w holl filwyr. Gofynodd un o'i gadbeniaid iddo pa fodd yr oedd yn ymgrymu felly ger bron offeiriaid Iuddewig. Atebodd Alexander, "Pan oeddwn yn Dio yn Macedonia, ac yn myfyrio pa fodd i ddwyn y rhyfel yn mlaen yn erbyn y Persiaid, y pryd hyny mewn breuddwyd, gwelais yr arch-offeiriad Iuddewig hwn yn yr un wisg, yr hwn am hanogodd rhag petruso i fyned i Asia, gan addaw y byddai Duw yn arweinydd i mi, ac y rhoddai i mi ymerodraeth y Persiaid. A chan fy mod yn sicr, oddiwrth ei wisgiad a llun ei wyneb-pryd, mai hwn yw yr un a ymddangosodd i mi yn Dio, y mae'n ddyogel genyf fy mod yn gwneuthur y rhyfel dan arweiniad Duw, ac y bydd i mi trwy ei gynorthwy ef, orchfygu