Tudalen:Hanes Alexander Fawr.pdf/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Darius a dadymchwelyd ymerodraeth Persia, ac am hyny yr wyf yn ei addoli yn mherson yr arch-offeiriad presenol." Ar hyn trôdd Alexander drachefn at Jadua, ac a'i cofleidiodd yn garedig, ac a aeth gydag ef yn heddychol i Jerusalem, gan aberthu i Dduw yn y deml, lle y dangosodd Jadua iddo brophwydoliaeth Daniel, pen. viii. 5-7 ; y rhai sydd yn rhagddywedyd dymchweliad breniniaeth Persia, neu yr hwrdd deu-gorn, gan y bwch gafr un-gorn, yr hwn yw brenin Groeg, Dan. viii. 21, a xi. 3. Wedi hyn yr oedd Alexander yn fwy hyderus fyth, heb amheu dim nad efe oedd y bwch gafr yn y weledigaeth. Ar ei ymadawiad o Jerusalem gofynodd i'r Iuddewon, pa beth a fynent ganddo? dywedasant wrtho, mai mwynhau eu crefydd a'u cyfreithiau, a bod heb dalu teyrnged iddo bob saith mlynedd, am nad oedd eu cyfreithiau yn goddef iddynt hau na medi y flwyddyn hono; yr hyn oll a ganiataodd yn rhwydd iddynt.

Wedi hyn aeth Alexander i Gaza, dinas gadarn, a byddin gref o'i mewn, dan lywydd perthynol i Darius. Gorfu i Alexander roddi dau fis o warchae arni cyn ei chymeryd, yr hyn a'i ffromodd yn aruthr, oherwydd hyny lladdodd ddeng mil o'r trigolion, a gwerthodd y lleill ynghyda'r gwragedd a'u plant i gaethiwed; a Betis, blaenor y ddinas, a gafodd dyllu ei sodlau, a'i rwymo o'r tu ol i'w gerbyd, a'i lusgo oddiamgylch y ddinas hyd farwolaeth; yn yr hyn yr ymffrostiodd Alexander ei fod yn dynwared Achilles, un o'i henafiaid, yr hwn a lusgodd gorph Hector oddi amgylch Caer Droya, fel y dywed Homer y bardd Groegaidd.

ADEILADU ALEXANDRIA.

O Gaza aeth Alexander i'r Aipht, a chyrhaeddodd Pelusium, prif ddinas y wlad, lle derbyniwyd ef fel noddwr rhag y Persiaid. O Memphis aeth i ymweled â theml Jupiter Hammon, yr hon oedd oddeutu dau can' milldir o'r Aipht, yn niffaethwch Lybia; ond cyn cyrhaedd y deml, anfonodd genadon i wobri ei hoffeiriaid, ac i ddywedyd mai mab Jupiter Hammon ydoedd, yr hwn ynfydrwydd a dderbyniodd gwedi darllen o hono waith Homer, lle mae rhyfelwyr enwog yn cael eu priodoli yn feibion i ryw dduwiau anrhydeddus. Ond yn y ffordd hon sylwodd am le cyfleus i adeiladu dinas ar fin Môr y Canoldir; ac ar gyfer ynys Pharus y gorchmynodd sylfaenu dinas yr hon a alwodd oddiwrth ei enw ei hun yn Alexandria, yr hon am oesoedd lawer a fu yn brifddinas yr Aipht, ac yn benaf yn y dwyrain am fasnach.* Y pensaer

[1]

  1. Sefyllfa y dref hon sydd dra hylaw, rhwng y Môr Coch a Môr y Canoldir, ac ar y gaingc fwyaf gorllewinol o'r afon Nile ar dir isel; canys prin y canfyddir hi hyd nes yr eir iddi. Yr oedd yn dref anrhydeddus yn yr hen amser, fel y tystia olion ei hadeiladaeth, yn enwedig y tyrau mawrion sydd eto yn sefyll, yn y rhai yr oedd ffynonau, oherwydd y dyfrffosydd a weithiwyd i ddwyn dwfr o'r Nilus iddynt. Ei hen byrth sydd yn ymddangos yn rhagorol, oherwydd eu hadeiladu â main mynor. Fe'i cyfrifid gynt yn ail i Rufain, ac yr oedd yma fasnach fawr gan drysorau yr Indía Ddwyreiniol. Ond wedi cael allan Benrhyn deheuol Affrica collodd lawer yn ei masnach, fel nad yw yn awr yn amgen nag un heol yn cyfeirio i'r llongborth. Y mae yma ddau borthladd, un i longau Ewrop, a'r llall i longau Twrci. Alexander fawr, sef ei hadeiladydd, a gladdwyd yn Memphis yn yr Aipht, mewn arch o aur, ond a gyfodwyd oddiyno i'w gladdu yn y dref hon, lle y gorphwys hyd yr adgyfodiad oddiwrth ei lafur blin dan haul. Yr oedd yma gynt lyfrdy ac ynddo 700,000 o gyfrolau (volumes,) y rhai a losgwyd gan yr Arabiaid, sef yr un a'r Saraceniaid neu'r Tyrciaid, y rhai oeddynt deulu Gog a Magog: buwyd chwe' mis yn eu llosgi i dwymo yr ymdrochdai, yr hyn a ddygwyddodd oddeutu'r fl. 642. Philosophydd dysgedig o'r grefydd Aristotlaidd a ofynodd am y lyfrgell freninol hon i dywysog y Saraceniaid, yr hwn dros y philosophydd a'i gofynodd i'r Ymerawdwr; ond ateb yr Ymerawdwr oedd, Os cynwysai y llyfrau hyny yr hyn oedd yn yr Alcoran, nad oedd achos am danynt, gan fod yr Alcoran yn ddigon; ac os na chydsynient a hwnw nad oeddynt i'w gadael; ac felly gorchmynwyd eu difa. Llosgwyd yma lyfrgell cyn hyny, yn ddamweiniol, gan Julius Cæsar, wrth gymeryd y dref drwy ryfel. Cynwysai y llyfrgell hono 400,000 o gyfrolau. Tebygol na chynwysai yr holl lyfrau hyn fawr amgen na dychymygion paganaidd, ac eilunaddoliaeth, yr hyn sy'n lleihau y golled ohonynt. Er hyny, gellir barnu fod croniclau breninol yn eu plith, yn nghyda bywydau yr hen enwogion yn eu rhyfeloedd; ac felly buasai yr achubiaeth o honynt yn werthfawr heddyw yn y sefyllfa hanesyddol. Yma yr oedd y golofn a elwir Nodwydd Cleopatra, yr hon sydd yn awr wedi cael ei dwyn i Loegr, a cholofn Pompey, yr hon sydd yn un darn o wenithfaen 70 troedfedd o uchder, a 25 troedfedd o amgylchiad; ac hefyd Goleudy Pharos, a gyfrifid gynt yn un o Saith Ryfeddod y byd.
    Yn y dref hon y ganwyd Apolos, Act. xviii. 24; a bernir i Marc yr Efengylwr bregethu yma; ond yn awr nis gall ei chrefydd fod yn amgen na Mahometiaeth. Goddefodd Alexandria ryfeloedd trymion o oes i oes.