Tudalen:Hanes Alexander Fawr.pdf/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydoedd Democrates, yr hwn yn ei oes oedd enwog am ail adeiladu o hono deml Diana yr Ephesiaid, ar ol ei llosgi gan Erostratus. Wedi gosod y gwaith dan ofal Democrates, aeth Alexander tua theml Jupiter Hammon, drwy ddiffaethwch tywodlyd, lle yr oedd mewn perygl o gael ei gladdu gan y llychfeydd tywodog, fel y claddwyd byddin Cambyses cyn hyny; ac hefyd yr ydoedd mewn perygl o drengu gan syched; ond gwaredwyd ef a'i wŷr gan gawod o wlaw pan oeddynt oll ar feirw o eisiau dwfr. Ac yn wir gellir barnu y darfuasai am dano ganwaith oni buasai ei gynaliaeth oddi uchod i gyflawni dybenion yr Arglwydd. Ond wedi cyrhaedd y deml addolodd yno, a gofynodd i'r oracl, a oedd marwolaeth ei dad wedi ei gwbl ddialu, pryd yr atebodd hwnw, "Nid dyn marwol oedd dy dad, na fydded i ti siarad fel yna am dano." Mewn canlyniad i hyny, derbyniodd gan yr oracl yr hysbysiad ei fod yn fab Jupiter Hammon; yr hwn hefyd a'i hysbysodd yn mhellach fod marwolaeth ei dad tybiedig wedi ei gyflawn a'i lwyr ddialu. Wedi hyny honodd yn ei lythyrau, ei orchymynion, a'i gyfreithiau, ei fod yn FRENIN ALEXANDER MAB JUPITER HAMMON, gan gyhoeddi fod y duw hwnw ar lun sarph wedi ei genedlu o Olympias ei fam. Yr oedd llawer yn ei ffieiddio am ei ynfydrwydd gwallgofus yn hyn; ond dangosodd greulondeb nid bychan ar y rhai a amheuai ei faboliaeth o Jupiter, ac aeth rhagddo mor uchelfrydig ag i gymeryd yr enw duw, ac i ofyn addoliad gan bawb a ddynesai ato!!

Ar ei ddychweliad o Lybia, ail olygodd Alexandria, gan anog y gwaith yn mlaen, a rhoddi yr un breintiau dinesig i'r Iuddewon ag i'r Macedoniaid, ac yr oedd rhyddid crefyddol i'r naill a'r llall o honynt, trwy yr hyn y rhagwelodd Alexander y buan boblogid ei ddinas newydd. Oddiyma dychwelodd i Memphis. Dyma yr amser, sef y bedwerydd flwyddyn o deyrnasiad Darius Codomanus, y mae Ptolomy yn diweddu teyrnasiad y Persiaid, a dechreuad teyrnasiad Alexander yn y dwyrain, sef o'r amser yr adeiladwyd Alexandria yn yr Aipht.

LLWYR ORCHFYGU BYDDIN DARIUS.

Wedi hyny aeth Alexander i chwilio am Darius, yr hwn oedd wedi taer ddeisyf dair gwaith am heddwch; ac yn y daith hon daeth i Samaria, lle dialodd waed Andromachus ei raglaw, yr hwn a laddwyd gan y Samariaid; ond yn awr am hyny lladdodd bawb oedd a llaw yn ei farwolaeth. Deallodd Darius nad oedd heddwch iddo heb roddi i fyny ei deyrnas i Alexander; gan hyny casglodd Darius fyddin yn Babilon o un cant ar ddeg o filoedd, gan feddwl ymladd y frwydr yn nghylch y fan lle safodd Ninife. Cyfarfyddodd Alexander ef wrth Caugamela, ac ymwersyllodd y ddwy fyddln yn ngolwg y naill y llall, yn barod i'r frwydr oedd ar gymeryd lle. Un noson yn mis Medi, rywbryd tua dechreuad gwyl y dirgeledigaethau mawrion yn Athen,