Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Brwydr Warterloo.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Hwrê! hwrê!" fe'u harweiniodd hwynt yn mlaen ei hun. Dychwelasant y fanllef tra y dylynent ef â phenderfyniad pwyllog, yr hyn yn ol geiriau y blaenor Yspaenaidd Alava, a "arswydodd y gelyn."

MARWOLAETH SYR THOMAS PICTON.

Cadwodd y cadfridog tu ol i'r gadres, gan ei hanog trwy ei siampl ei hun. Yn ol bryslythyr y Duc Wellington, "hwn oedd un o'r ymosodiadau mwyaf ofnadwy o eiddo y gelyn ar ein sefydliad ni." Yr oedd cadw hwn draw, o ganlyniad, o bwys annhraethol i lwyddiant y dydd. Gwyddai Picton hyn, a theimlodd yn ddiameu y gwnai ei bresenoldeb ei hun dueddu yn fawr i lenwi ei ddynion â gwroldeb. Yr oedd yn edrych ar ei gadres eofn, gan chwyfio ei gleddyf, pan y tarawodd pelen ef ar ei gern (temple), ac efe a syrthiodd yn ol ar ei gefn yn farw. Pan welodd Cadben Tyler ef yn syrthio, disgynodd yn union oddi ar ei geffyl, a rhedodd i'w gynorthwyo, a thrwy gymhorth milwr, cariasant ef oddiar ei geffyl; ond yr oedd pob cymhorth yn ofer—yr oedd ei yspryd wedi cymeryd ei hedfa. Cymro ydoedd y dewrgalon a'r gwrol Picton, genedigol o sir Gaerfyrddin, ac y mae cofadail iddo yn nhref Caerfyrddin.

Yr oedd rhuthr y frwydr yn myned yn mlaen, a'r lluaws gwrthwynebol wedi ymgyfarfod, ac nis gallai neb fod yn segur yn y fath amser. Gosodwyd ei gorph gan hyny o dan goeden, lle y gellid yn hawdd gael hyd iddo pan fyddai y frwydr drosodd.

Ar ol bod yr ymdrech waedlyd trosodd, ac i'r Saeson buddugoliaethus gael eu galw yn ol i faes y frwydr, gan adael y Prwssiaid i erlyn ar ol y gelyn, aeth Cadben Tyler i chwilio am gorph ei hen gadfridog, ac a'i cafodd yn hawdd. Wrth chwilio, cafwyd fod y belen wedi suddo i'w gern chwith, a myned trwy yr ymenydd, yr hyn o angenrheidrwydd a achosodd angeu disyfyd.

Wrth edrych ar wisg Syr Thomas Picton ar brydnawn y 18fed, ychydig oriau ar ol ei farwolaeth, canfyddwyd fod ei amwisg wedi rhwygo ar un ochr. Arweiniodd hyn i ymchwiliad pellach, ac yna daeth y gwirionedd yn amlwg:—Ar yr 16eg yr oedd wedi cael ei glwyfo yn Quatre Bras: tarewsid ef gan belen, a thorwyd dwy o'i asenau, heblaw gwneyd rhai niweidiau tumewnol; ond, gan ddysgwyl yr ymladdid rhyfel boethlyd mewn ychydig amser, cadwodd ei glwyf yn ddirgel, rhag ofn y cymhellid ef i absenoli ei hun. O'r amser y gadawsai y wlad hon, hyd nes yr ymunodd a'r fyddin, nid aethai i'w wely unwaith—prin y rhoisai ddigon o amser iddo ei hun i gymeryd lluniaeth, gan mor awyddus ydoedd yn ngyflawniad ei ddyledswydd. Ar ol y clwyf tost a dderbynissai, gallasai ef ymatal yn gyfiawn rhag ymuno â'r fyddin ar y 18fed. Yr oedd ei gorph nid yn unig wedi duo ar ol ei glwyf cyntaf, ond wedi chwyddo yn fawr; a'r rhai hyny a'i gwelsant, a ryfeddent iddo gymeryd rhan yn nyledswyddau y maes.

Yn yr ymosodiad ofnadwy ag y soniwyd am dano, yr oedd y Currassiers yn hynod o amlwg. Teimlid eu hymosodiadau yn dost, ac am beth amser yr oedd pob ymgais i'w cadw draw yn ofer. Yr oedd y gwŷr meirch ysgeifn Prydeinaidd yn dyoddef yn greulon yn yr ymosodiad anghyfartal gyda'r gwrthwynebwyr trymion ac haiarn—wing. Gyrwyd hwynt yn ol gyda chryn golled, a gwnaed llawer yn garcharorion. Yr oedd hyd yn nod y lleng Allmanaidd, mor hynod am eu dysgyblaeth a'u heofndra mewn brwydr flaenorol, yn anghyfartal i ddal ergyd y gwrthwynebwyr hyn.

Nid oedd y gwyr meirch Ffrengig, yn eu hymosodiad, yn cael eu cynorthwyo gan wyr traed. Deuent yn mlaen gyda'r eonder mwyaf, yn agos at yr ysgwariau Prydeinaidd. Yr oedd y magnelau, y rhai oeddynt yn y blaen, yn cadw tan parhaus ar y Ffrangcod fel yr oeddynt yn dynesu, ond ar ol dyfod yn bur agos, yr oedd y magnelwyr yn gorfod encilio i'r ysgwariau, gan adael y magnelau yn meddiant y gwŷr meirch Ffrengig, y rhai modd bynag, nas gallent gadw meddiant o honynt, nac hyd yn nod eu tyllu, pe buasai y moddion ganddynt, oherwydd y cyflegriad arswydus yr oeddynt yn agored iddo oddiwrth y drylliau. Goddefid i'r gwyr meirch ddynesu yn agos at y bidogau Prydeinaidd cyn tanio ohonynt arnynt. Yna fe'u herlynid yn ol gyda chryn ddistryw, a'r magnelwyr yn union, gyda deheurwydd hynod, a danient arnynt yn ddinystriol fel yr encilient.

Yn yr eiliadau mwyaf pwysig o'r ymosodiadau hyn dygwyd mintai fawr o wŷr meirch, o dan ofal Arglwydd Uxbridge (wedi hyny Ardalydd Mon,) i fyny, cynwysedig o'r Life Guards, Oxford Blues, a'r Scotch Greys, y rhai a ymosodasant, ac ymladdwyd y frwydr fwyaf gwaedlyd a welwyd erioed rhwng gwŷr meirch. Er pwysau ac arfogaeth y cuirassiers, a nerth eu ceffylau, yr oeddynt yn hollol analluog i wrthsefyll ymosodiad y fintai drom. Wrth arwain y meirch-filwyr yn y rhuthrgyrch ofnadwy hwn, cafodd Iarll Uxbridge ergyd gan belen yn ei glun, fel y bu yn anghen-