Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Brwydr Warterloo.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

rheidiol ei thori i ffwrdd ar derfyn y frwydr; a derbyniodd gan ei frenin y teitl o Ardalydd Mon, fel cydnabyddiaeth o'i wrhydri.

Ar ol un o ymosodiadau y meirchlu, cymerodd ymladdfa lawlaw, amrai o ba rai a ddygwyddasant yn ystod y dydd, le ger gwydd y milwyr Prydeinaidd. Cyfarfyddodd hussar a chuirassier Ffrengig ar y gwastadedd; yr oedd y blaenaf wedi colli ei gap, ac yn gwaedu oddiwrth archoll ar ei ben. Ni phetrusodd, modd bynag, i ymosod ar ei wrthwynebwr haiarn—wisg, a gwelwyd yn fuan bod effeithiolrwydd meirchlu yn dibynu ar farchwriaeth da, a medrusrwydd yn nefnyddiad y cleddyf, ac nid mewn arfogaeth trwm amddiffynol Y foment y croesai y cleddyfau yr oedd medrusrwydd milwrol a blaenoriaeth yr hussar yn amlwg. Ar ol rhai yagarmesau, derbyniodd y Ffrengcyn archoll tost yn ei wyneb, yr hyn a'i hurtiodd; yr oedd yn awr yn amhosibl iddo ddiangc ei wrthwynebwr hoyw, ac yna brathodd yr hussar Prydeinaidd ei gleddyf iddo ef, yr hyn a'i dygodd i'r llawr, yn mysg bloeddiadau ei gymdeithion pryderus. Buonaparte, gan wybod yn dda y byddai raid i aberthiad ofnadwy o fywyd dynol gymeryd lle, i wthio yn ol y gwrthsafiadau dewr hyn, a feddyliodd am lethu y Prydeiniaid. Ond pan welodd ei golofnau yn cael ei gyru yn ol mewn annhrefn, pan yn cael ymosod arnynt ar yr aswy o'r rheng Saesonig gan Ponsonby ddewr; pan giliai ei feirchlu yn ol o'r ysgwariau nas gallent dreiddio iddynt; pan oedd byddin yn cael ei dwyn i lawr i gwmni bychan gan ei fagnelau, ac eto yr ychydig hyny yn safyll yn gadarn ar y tir a gymerasent ar y dechreu; nid rhyfedd iddo adrodd ei syndod i Soult—"Hardded y mae y Saeson yma yn ymladd—Eto y mae yn rhaid iddynt gilio."

Yr ydoedd yn awr yn bedwar o'r gloch. Yr oedd y fyddin gynghreiriol wedi derbyn amrai ymosodiadau gerwin, y rhai a gadwesid yn ol yn ddewrwych, ac nid oedd un fantais o bwys wedi cael ei henill gan y Ffrangcod. Cymerodd ataliad byr le ar ymosodiadau parhaus Buonaparte. Ymddengys ei fod wedi newid ei gynlluniau; trwy ei fod o'r amser hwn hyd haner awr wedi pump ar waith yn cydgynull ei cegorddion. Yn yr amser hwnw dechreuodd cyfres o ymosodiadau newyddion ar hyd yr holl reng. Darfu i'r holl feirchlu trymion, y cuirrassiers, y carbincers, y dragoons, a'r gwarchawdlu, ruthro ar y canolbwynt Prydeinaidd. Er mor ofnadwy oedd y gyflafan, buasai yn fwy ofnadwy fyth, oni fuasai i'r shells, oherwydd cyflwr gwlyb y ddaear, gael yn aml eu claddu yn y ddaear; a phan y torasant, ni wnaethant nemawr gyda thaflu i fyny lawer iawn o laid. Yr oedd pob gosgordd o eiddo Buonaparte y awr ar waith, oddigerth ei warchawdlu: a llefarai a theimlai megys pe buasaí y frwydr yn eiddo iddo ef. Dywedodd wrth Betrand, "Gallwn gyrhaedd Brussels erbyn pryd swper."

Cerid y rhyfel yn mlaen ar bob tu gyda hoywder annysgrifiol. Yr oedd pryder y Duc Wellington am ei filwyr dewr wedi dyfod yn fawr iawn. "Gwelais ef," meddai dyn oedd yn bresenol, "yn tynu ei awror allan amrai weithiau, a hyny yn ddiameu i gyfrif pa bryd y deuai y Prwssiaid." Dywedir hefyd ddarfod ei glywed yn dywedyd, "O na pharai Duw i naill ai y nos neu Blucher ddyfod!"

Chwech o'r gloch nid oedd y Prwssiaid wedi dyfod. Yr oedd y catrodau Prydeinaidd oll mewn gweithrediad yr oedd eu dinystr eisoes yn fawr iawn, a'u llwyddiant yn dra amheus. Yr amser yma, pan welodd y Cadfridog Syr Colin Halket, yr hwn oedd yn llywodraethu y bummed fintai Saesonig, fod ei rengau wedi eu lleihau yn erchyll, ac amrai o'i ddynion yn dihoeni gan ludded, anfonodd genad at y Duc, i ddywedyd fod ychydig o seibiant, pa mor fyr bynag, yn anhebgorol angenrheidiol. "Dywedwch wrtho," ebai y Duc, "fod yr hyn a gynygia yn amhosibl. Rhaid iddo ef a minau, a phob dyn ar y maes, farw yn y fan yn hytrach na llwfrhau." "Y mae hyna yn ddigon," atebai Syr Colin, "bydd i mi, a phob dyn o'm catrawd, gyfranogi o'i dynged ef."

TERFYNIAD Y FRWYDR, A DYNESIAD Y PRWSSIAID.

Yr oedd y fyddin Brydeinaidd wedi bod o dan dân y gelyn am yn agos i saith awr. Yr oedd mynediad y Prwssiaid yn mlaen yn cael ei atal, o ran trwy gyflwr y ffyrdd, y rhai oeddynt wedi dyfod bron yn annhramwyadwy; ac o ran trwy anewyllysgarwch y rhai hyny a orchfygesid yn Ligny, i ddyfod eilwaith i ymladd a'u gorchfygwyr. Diau fod ganddynt yn eu mynediad yn mlaen i ymwneyd ag anhawsderau mawrion, ac achosai eu magnelau trymion oediad mwy fyth; yr oeddynt yn suddo weithiau fodfeddi i'r llaid. Er holl ddysgyblaeth ymffrostgar y Prwssiaid, torai y dynion tros derfynau trefn a llywodraeth. Hyd yn nod wrth Blucher ei hun nid ymatalient rhag gwrth-achwyn. "Nis gallwn byth fyned yn mlaen," a glywid ar bob tu.