Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Brwydr Warterloo.djvu/5

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a feddyliasant, mai cyn i'w hamrywiol luoedd gydgyfarfod, y byddai i'r ymdrech dost a sefydlodd hedd i Ewrop gael ei therfynu heb iddynt hwy gael rhan yn y clod a'r anrhydedd.

GORTHRECHIAD Y PRWSSIAID.

Oherwydd fod magnelau y Prwssiaid wedi eu cyfleu yn y fath fodd nad oedd yn hawdd iddynt eu cludo gyda hwynt, syrthiodd oddeutu 40 o honynt i feddiant y Ffrangcod. Ond fe enciliodd y milwyr yn y fath fodd rheolaidd a threfnus, fel nad allai gwyr meirch y gelynion fenu arnynt. Nid oes dim yn dangos doethineb milwraidd maeslywydd yn fwy, na'i waith yn rheoli enciliad gyda'r fath fedrusrwydd nad all yr erlidwyr gael unrhyw fantais arno. Parhaodd y Prwssiaid eu taith ar hyd y nos, nes dyfod i bentref Wavre. Collodd y Prwssiaid yn y frwydr oddeutu 15,000 o wŷr: ac er nad oedd colled y Ffrangcod yn llawn cymaint, eto rhaid ei bod yn fawr.

Y DUC WELLINGTON YN DERBYN Y NEWYDD.

Y newydd annysgwyliadwy o ymgynulliad lluoedd Ffraingc, a'u hymosodiad, dan eu clodfawr Flaenor, ar y Prwssiaid, a draddodwyd i'r Duc Wellington yn Brussels, y 15fed dydd, yn yr hwyr. Yr oedd y Duc, yn nghyda phrif swyddogion ei fyddin, wedi myned i ddawnsfa (ball) a roddid gan Dduges Richmond i'r Uchgadbeniaid. Daeth y brys-negesydd oddiwrth Blucher, ac a draddododd y llythyrau oedd yn cynwys y newydd i law y Duc Wellington yn yr ystafell ddawns. Buan y dygodd hyn gwmwl ar eu digrifwch a'u llawenydd. Yn hytrach na gwrandaw ar sain cerddorion, rhuad magnelau, adsain udgyrn, a churiad tabyrddau, a glywid mwy yn treiddio dros holl awyrgylch Brussels. Y mae yn amhosibl darlunio y braw a'r cyffro a barodd y fath ymweliad annysgwyliadwy yn y ddinas a'i hamgylchoedd. Yr oedd y milwyr wedi bod yn gwersyllu yno yn awr er ys talm o amser, a wedi dyfod yn hynod o gariadus. Yr oedd eu hymddygiadau hynaws a rheolaidd wedi dwyn mawr serch y dinasyddion, ac edrychid arnynt fel rhai wedi ymgorpholi â hwynt. Nid anfynych y gwelid y milwyr yn meithrin eu plant, yn gwarchod eu haneddau yn eu habsenoldeb, ac ar rai troion ymddiriedid yr Albaniaid yn enwedig â gofal eu nwyddau masnachol. Nid rhyfedd gan hyny iddynt achosi cymaint o bryder, a chael cymaint i gydymdeimlo â hwynt, pan ar droi eu cefnau ar eu dinas, lawer o honynt, yn ol pob argoelion, na ddychwelent iddi byth mwy. Yn ystod eu parotoadau, tra yr oeddynt yn casglu yn nghyd eu hamrywiol angenrheidiau, ceid y dinasyddion gyda hwynt, wedi gadael eu gwelyau yn nyfnder y nos, ar haner gwisgo am danynt, yn canu yn iach iddynt, ac yn traddodi eu goreu fendith ar eu penau. Yr oedd cymysg ofn am eu dyogelwch eu hunain a'u hamddiffynwyr dewrion, a'r perygl oedd yn ymgasglu oddeutu y ddinas, yn gweithredu mor drwm arnynt, fel nas gwyddent yn iawn pa beth i wneyd, na pha le i droi eu hwynebau. Yr oedd wedi dyfod i'w clustiau fod Buonaparte yn bygythio rhoddi eu dinas yn sathrfa ac ysglyfaeth i'w filwyr, os byddai yn fuddugoliaethus, ac y mae llawer o le i ofni fod gormod o wir yn hyn."

Y FYDDIN BRYDEINIG YN TROI ALLAN O BRUSSELS.

Fore yr 16eg y mae yr amrywiol gatrodau yn troi allan o Brussels, yn cael eu blaenori gan eu priodol Gadfridogion. Yn mysg y rhai blaenaf i wynebu y maes, caed dwy gatrawd Albanaidd, y 42ain a'r 92ain. Yn hoyw a llawen yr ymadawent a'r ddinas, gan seinio eu pibroch, a dangos pob arwyddion o ddewrder ac eofndra. Yr oeddynt yn gwneuthur i fyny ran o ddosbarth yr enwog Syr Thomas Picton, yr hwn oedd newydd ddyfod i Brussels y nos o'r blaen o Brydain. Mor fyrbwyll a dirybudd y bu raid i'n byddinoedd dewrion droi allan i gyfarfod â'u gelynion!

Fel hyn yr oedd lluoedd Prydain yn prysuro o Brussels i ymuno â lluoedd y Tywysog Blucher, i gydweithredu âg ef yn erbyn y Ffrangcod, y rhai oeddynt yn awr yn ymosod arno gydag ymroddiad digyffelyb. Yr oedd Buonaparte wedi rhagweled hyn, ac wedi dethol 30,000 o filwyr, a'u hymddiried dan ofal y dewr a'r gwrol Dywysog Ney, un o'i brif gadfridogion. Cyfarfu y rhai mwyaf blaenllaw o luoodd Prydain A'r rhai hyn mewn pentref a elwir Quatre Bras, yr hwn a enwir felly oblegyd fod y ffordd o Charleroi i Brussels yn croesi y ffordd o Nivelles i Namur yn agos i'r pentref, ac yn llunio pedair croesffordd. Yr oedd milwyr Ffraingc yno o flaen y Prydeiniaid. Yr oedd yn amhosibl i holl fyddin y Duc Wellington ddyfod i fyny yn gryno gyda'u gilydd, oherwydd fod iddynt waith parotoi, a bod rhai ohonynt yn gwersyllu yn mhellach n'au gilydd oddiwrth Quatre Bras. Ychydig gatrodau, ac yn enwedig yr Albaniaid, yn gwneuthur i fyny ran o ddosbarth yr enwog a'r dewr Gadfridog Picton, oedd y rhai cyntaf i ddyfod i olwg y gelynion. Nid oeddynt ond