Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Brwydr Warterloo.djvu/6

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

megys dyrnaid bychan o wŷr, mewn cymhariaeth i rifedi eu gwrthwynebwyr; er hyn oll, ni rusasant am un mynudyn eu gwrthwynebu, a chynal holl bwys yr ymdrech eu hunain. Rhyfedd yw meddwl i'r dewrion teilwng hyn ataly gelyn yn ei rwysg, nes iddynt gael eu gyfnerthu gan filwyr ereill, y rhai o hyd oedd yn dyfod i fyny o Brussels a'i chyffiniau. Tost a gwaedlyd iawn a fu yr ymdrechiadau y dydd hwn, oherwydd anghyfartalwch ein milwyr ni mewn cymhariaeth a'r Ffrangcod; er hyny safasant eu tir heb encilio trwch y blewyn; a chafodd yr haul, ar ei fachludiad, weled banerau Prydain yn chwyfio uwch ben yr un llanerch ag yr oedd wedi bod yn tywynu arnynt trwy gydol y prydnawn. Ond er iddynt hwy allu dal eu ffordd, yr oedd yn amhosibl iddynt beidio a theimlo mawr anesmwythdra mewn perthynas i ddiweddglo y frwydr rhwng Buonaparte a Blucher, canys yr odddynt ar hyd y dydd yn clywed swn eu magnelau. Yr oedd yr haul wedi codi ar y ddaear fore yr 17eg, pan dderbyniodd y Duc Wellington y newydd gofidus o orthrechiad yr hen wron, a'i fod, ar y pryd, yn encilio. Yr oedd y ddau Gadfridog, sef Blucher a Wellington, wedi cytuno o'r blaen, mai os gorchfygid ef, sef Blucher, y byddai iddo gilio yn ol, i dreflan a elwid Wavre, ac y byddai iddo yntau, sef y Duc Wellington, syrthio yn ol i'r cyfryw sefyllfa ag a'i gwnai yn gyfleus iddynt gydweithredu erbyn y deusi ail daro. Yn unol A'r drefn uchod, enciliodd y Tywysog, i Wavre; ac yn ddioed, wedi derbyn y newydd hyn, gorchymynodd y Duc i'w holl fyddin adael eu sefyllfa bresenol, a myned yn ol tua Brussels. Erbyn oddeutu 11eg o'r gloch, ar fore yr 17eg, yr oedd eu hamrywiol sefyllfaoedd yn Quatre Bras yn wag, a'r holl fyddin ar eu hymdaith, oddieithr ychydig o olosgyrdd, y rhai a drefnid yno er atal y Ffrangcod i ddyfod ar ol y fyddin, i'w haflonyddu ar ei henciliad. Yr oedd hi yn ddiwrnod hynod o wlybyrog, a'r ffyrdd wedi cael eu cafnio gan y llifogydd a'r magnelau, fel yr oedd bron yn ambosibl eu trafaelio, ac yn enwedig i'r gwageni a'r cadgelfi. Wedi taith o ychydig oriau, ac oddeutu saith milldir o bellder, cyrhaeddasant faes nodedig a bythgofiadwy Waterloo. Yna gorchymynodd y Duc i'r holl fyddin orphwyso, gan arwyddo ei fod yn bwriadu gwrthsefyll y gelynion yn y lle hwn. Dywedir fod y Duc, pan oedd yn ymdaith drwy yr Iseldiroedd, ac yn myned heibio y llanerch hon, wedi sylwi arni, a dywedyd, mai os byth y deuai i'w ran ef amddiffyn Brussels, y dewisai y fan hono fel ei sefyllfa filwraidd.

DYSGRIFIAD O FAES Y FRWYDR.

Yr wyf yn bwriadu yn awr roddi brås eglurhad o faes yr ymladdfa, a sefyllfaoedd y ddwy fyddin. Yr wyf yn meddwl mai y ffordd oreu, tuag at roddi rhyw syniad i'r Cymro o'r lle, fydd ei gyfeirio i lunio iddo ei hun ddyffryn tebyg iddo yn ei fro enedigol. Bydded iddo, gan hyny, ddychymygu dyffryn oddeutu tri chwarter milldir o led, ac ychydig dros ddwy o hyd, yn rhedeg o'r deau orllewin i'r gogledd ddwyrain, a llechweddi lled uchel o bob ochr. Wrth sefyll yn y pen deheuol, ac edrych tua'r gogledd ddwyrain, efe a genfydd fyddin Prydain ar yr aswy iddo, a byddin Ffraingc ar y ddeau. Yr oedd cadres Brydain wedi cael ei threfnu yn debyg i be baech yn tori cylch crwn yn ei hanner, ac yn troi y camedd at y Ffrangcod, ac yn gosod rhes o wŷr ar hyd yr ochr allanol iddo: felly byddai bob pen yn fynu i fewn ychydig, a'r canol yn fwy yn mlaen, fel hyn,)) Yr oedd y fyddin yn ddwy rês. Yr oedd y rhes gyntaf wedi cael ei gosod ar war trum, oddeutu haner ffordd i fyny y llechwedd, y tu ol i hen glawdd lled rwyllog, a ffos ag oedd yn rhedeg o dreflan Mynydd St. Jean, tua phentref Ohain. Yr oedd yr ail rês wedi ei chyfleu mewn pant, tu ol i'r drum, aci ryw raddau yn cael ei chysgodi rhag ergydion y gelynion. Y mae y llechwedd oddeutu La Haye yn lled goodiog, ac yn bur agenog, ac hyd yma y cyrhaeddai pen eithaf cadres Brydain, ar yr aswy. Y mae flordd yn myned o La Hayei Ohain a St. Lambert, ac ar hyd hon yr oedd Wellington yn dysgwyl yr hen Flucher i'w gynorthwyo. Yr oedd canolbwynt byddin Prydain ar gyfer pentref Mynydd St. Jean, oddeutu canol y bryn, yn agos i'r llanerch ag y mae y ffordd fawr o Brussels yn fforchi yn ddwy, un yn arwain i Nivelles, a'r llall i Charleroi. Yr oedd pen eithaf y fyddin, ar y ddeau, yn terfynu yn Merke Braine. Tua phen deheuol y fyddin, yn mhell y tu blaen, yr oedd lle o'r enw Hougoumont, tŷ gŵr boneddig, yr hwn a gylchynid o un tu â thai allan, ac o'r tu arall â gardd eang, yn llawn o rodfeydd. Yr oedd yr ardd hon yn cael ei chau allan â gwal uchel, a thu allan i'r wal yr oedd clawdd a ffos. Yn amgylchu y cyfan yr oedd tyrau o goed talgryfion yn gorchuddio yn nghylch pedair erw o dir. Yr oedd y llanerch hon o'r pwys mwyaf in milwyr ni. Yr oedd y lle ynddo ei hun fel rhyw gaer fechan, a thra safai yn meddiant y Prydeiniaid, yr oedd bron yn amhosibl i'r Ffrangcod lwyddo yn erbyn pen deheuol y