Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/104

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD IX - Y CENHEDLOEDD DUON.

O'r gogledd y tyrr drwg allan ar holl
drigolion y tir.

YR oedd brenhinoedd yng Nghymru a Lloegr yn ceisio darostwng is frenhinoedd a thywysogion dan eu gallu eu hunain. Yr oedd yr un ymdrech yn Scandinavia, - y penrhyn hwnnw yng ngogledd Ewrob sydd wedi anfon cymaint o filwyr a meddylwyr i wledydd mwy heulog y de. O'r hafanau dirifedi sydd ar draethell fynyddig gorllewin y wlad honno, ac o'r fforestydd diderfyn ac unig sydd ar ei hochr ddwyreiniol, daeth llu o fôr-dywysogion tua'r de yn amser Cynan Tindaethwy ac Offa frenin. Rhy anibynnol eu hysbryd oedd y penaethiaid hyn i aros gartref dan lywodraeth brenin; ac yr oeddynt wedi clywed gan fasnachwyr am hinsoddau tynerach, ac am wledydd mwy ffrwythlawn, ac am drysor diderfyn mewn dwylaw gweiniaid.

Yr oedd y môr-wibwyr hyn yn perthyn i ddwy genedl, - y naill yn bobl dal a goleubryd, y lleill yn bobl fyrion pryd tywyll. Y bobl fyrion ydyw cenhedloedd duon y croniclau. Nid oeddynt wedi clywed yr efengyl, y paganiaid y gelwid hwy gan y Cymry. Ond nid oedd eu paganiaeth yn un chwerw nac yn un erlidgar. Y mae'n wir mai'r eglwysi a'r mynachlogydd oedd eu hoff ysbail, ond y rheswm am hynny oedd mai yn y sefydliadau hyn yr oedd yr aur a'r llestri gwerthfawr. Heblaw hynny, yr oedd y mynachlogydd yn eu cyrraedd, - ar ynysoedd neu ar lan y môr, wedi eu hadeiladu pan mai o ochr y tir yn unig yr oedd y perygl. Dyna paham yr ysbeilid