Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tyddewi a Llanbadarn a Llan Faes. Yr oedd y Daniaid yn berffaith barod i droi'n Gristionogion os tybient y byddai hynny o ryw elw; a gweddient yn null y Cristionogion weithiau o flaen brwydr, rhag ofn mai hynny oedd oreu iddynt. Yr oedd ganddynt ddwylaw medrus at lawer gwaith,-gwneud cychod, saernio, gweithio brethyn garw, gweithio haearn. Yr oedd symudiadau eu llynghesoedd yn berffaith drefnus, ac ni welsid byddin erioed fedrasai symud mor gyflym ar dir a môr. Daethant fel llif o'r gogledd, rhannwyd y ffrwd yn ddwy gan yr ynysoedd Prydeinig, - y naill yn mynd hyd y lan orllewinol i ymosod ar yr Iwerddon ac ar Gymru, ar llall yn mynd hyd y lan ddwyreiniol i ymosod ar Loegr a Ffrainc. Deng mlynedd a phedwar ugain a saith cant oedd oed Crist, ebe Brut y Tywysogion, pan ddaeth y paganiaid gyntaf i'r Iwerddon. Ymosod ar brif ddinas oedd cynllun cyffredin y Daniaid, a pharlysu gwlad felly. Ond nid oedd i Gymru brifddinas; a gwaith y Daniaid oedd ymosod o'r môr tra yr oedd yr Eingl yn ymosod o'r tir.

Wedi ei oes hir a thrallodus, ni adawodd Cynan Tindaethwy ond un ferch. Gŵr o'r gogledd oedd gŵr honno, o'r enw Merfyn Frych; a theyrnasodd yntau yn y blynyddoedd blin rhwng 815 ac 840. Yr oedd y Daniaid yn ymosod yn ffyrnig ar yr Iwerddon a Chymru; yr oedd y Saeson yn ymosod ar Bowys, ac nid oedd ond rhan fechan o honni'n aros. Colli brwydr, marw brenin, diffyg ar yr haul, - dyna hanes teyrnasiad Merfyn Frych.

Anobeithiol iawn oedd yr olygfa gafodd Rhodri ar Gymru pan ddechreuodd deyrnasu yn lle ei dad yn 840. Yr oedd y tywysogion yn ymladd â'u gilydd er fod Saeson, Eingl, a Daniaid yn eu bygwth. Nid ydyw'r hanes rydd Brut y Tywysogion o flynyddoedd