Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyntaf ei deyrnasiad ond un rhestr o drallodion, - Ac y bu farw Merfyn. "Ac y bu waith Ffinant. Ac y llas Ithel brenin Gwent gan wŷr Brycheiniog. Deg mlynedd a deugain ac wyth cant oedd oed Crist pan las Meurig gan y Saeson. Ac y tagwyd Cyngen gan y cenhedloedd. Ac y diffeithiwyd Mon gan y cenhedloedd duon."

Yr oedd cyflwr Cymru'n resynus. Ac yr oedd yr amser i'w gwaredu wedi dod. Yr oedd Mercia wedi ei darostwng gan Wessex, ac yr oedd y Daniaid yn dechrau bygwth honno. Yr oedd Rhodri yn un fedrai ddefnyddio ei gyfleusdra; a chyn ei farw yn 877 yr oedd wedi uno Cymru ac wedi ei gwneud yn fwy cadarn nag y bu er marw Cadwallon.

Tra'r oedd y Daniaid yn chwilfriwio pob teyrnas arall o'i gwmpas, medrodd Rhodri Mawr amddiffyn ei wlad rhagddynt. Yn 855 bu brwydr rhyngddo â'r cenhedloedd duon, a lladdwyd Horm eu pennaeth. Wedi hynny aeth y Daniaid i chwilio am frenhinoedd gwannach; troisant i'r Iwerddon, ymosodasant ar Gernyw, a chyn hir yr oeddynt yn bygwth pob un o deyrnasoedd Lloegr. Y mae bron yn sicr fod gan Rodri lynges i amddiffyn y glannau rhag y Daniaid ac i ymuno â brenhinoedd yr Iwerddon; ac efallai mai mewn brwydr ar y môr y boddodd Gwgwn, mab Meurig brenin Ceredigion. Tuag 868 yr oedd y Daniaid fel pe ar orchfygu pob congl o ynysoedd Prydain a'r Iwerddon. Yr oedd Dulyn a Chaerefrog wedi cwympo, yr oedd Alclwyd wedi ei gorchfygu hefyd, ac yr oedd y lluoedd paganaidd anorchfygol yn ymbaratoi i ymdeithio tua'r de. Brenin Cymru a brenin Wessex yn unig oedd heb eu gorchfygu. Yn 876 yr oedd Rhodri ar ffo yn yr Iwerddon, wedi ei yrru o'i wlad gan y cenhedloedd duon. Ac yn 878 yr oedd Alfred, brenin Wessex, yn niffeithleoedd Athelney, ar ffo o flaen yr un gelyn. Ond gwanhaodd gallu'r Daniaid, - ymsefydlodd llawer o