Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ohonynt ar y tir enillasent, ac aeth lluoedd i ymosod ar Ffrainc, - a daeth Alfred a Rhodri yn ôl at eu pobl.

Nid y Daniaid oedd unig elynion Rhodri; aml dro yr ymladdodd yn erbyn y Saeson hefyd. Weithiau yr oedd mewn cynghrair â'r Saeson yn erbyn y Daniaid, ond yn amlach na hynny yr oedd y Daniaid yn gynghreirwyr iddo yn erbyn y Saeson. Ac er fod Mercia yn wannach nag y bu, yr oedd hi o gyrraedd y Daniaid, ac yn ymosod ar Gymru o hyd. Yn 864, tra'r oedd y Daniaid yn paratoi i ymosod ar Loegr o bob cyfeiriad, yr oedd y Saeson wedi medru treiddio cyn belled ag Ynys Môn, hoff ynys teulu Cunedda, a dywed un cronicl Gwyddelig fod y Cymry wedi eu gyrru o'u gwlad a'u carcharu yn ynys Môn. Yn ynys Môn, yn ddiamau, yr oedd un o hoff gartrefi Rhodri; a phan ymosodai y Saeson ar Gymru, cychwynnent o Gaer, ymladdent eu ffordd trwy Gonwy, ac ymosodent ar Fôn.

Gwaith caletach na chadw'r Daniaid a'r Saeson draw oedd uno Cymru yn un wlad. Ac y mae'n sicr fod Rhodri Mawr wedi llwyddo i wneud hyn. Gwelodd yn eglur y mynnai pob talaeth gael brenin iddi ei hunan yn ogystal â brenin holl Gymru. A'i gynllun ef oedd rhoddi ei feibion yn is-frenhinoedd pa le bynnag y gallai. Fel Aetllelwulf, brenin Lloegr, yr oedd ganddo feibion rhyfelgar a galluog. Yr oedd chwech o feibion yn is-frenhinoedd dano; a'r rhai enwocaf oedd Anarawd, Cadell, a Merfyn.

Yn 877 yr oedd y Daniaid wedi crynhoi eu holl nerth i ymosod ar Wessex. Yr oedd Rhodri Mawr wedi ymheddychu â hwy, ac ofnai Eingl Mercia yr ymosodai ar Loegr yr un amser ar Daniaid. Tra yr oedd Alfred yn ymladd yn erbyn,y Daniaid, ymosododd Saeson ac Eingl Mercia ar Rodri. Prin yr oedd wedi cael amser i drefnu ei luoedd pan ddaeth y gelyn i ynys Môn. Ac yno, ym mrwydr Dydd Sul, cwympodd Rhodri a'i frawd.