Ceisiodd meibion Rhodri Mawr deyrnasu ar frenhiniaeth eu tad fel yr oedd ef wedi teyrnasu. Gwaith cyntaf Anarawd oedd dial marwolaeth ei dad ac ymlid Saeson ac Eingl Mercia o Gymru. Yng Nghonwy y bu'r frwydr, yn 880, a dialwyd gwaed Rhodri Mawr. Yna gwnaeth Anarawd gyfamod â hen elyn ei deulu, Northumbria, yn erbyn Mercia.
Gwaith anhawddach na gorchfygu'r Saeson oedd cadw'r tywysogion rhag gwrthryfela. Gorfod i Anarawd ddiffeithio Ceredigion ac Ystrad Tywi. A theimlad yr holl Ddeheudir oedd fod iau meibion Rhodri'n drom; aeth Gwent a Morgannwg dan iau ysgafnach Mercia; ac yr oedd Dyfed a Brycheiniog wedi dewis Alfred, brenin Wessex, yn hytrach na Chadell fab Rhodri Mawr.
Cyn hir ail ddechreuodd ymosodiadau'r Daniaid, a gorfod i Wessex, Mercia, a Chymru ymuno yn eu herbyn, a chawn Alfred Fawr, Aethelflaed arglwyddes Mercia, Anarawd, a Chadell, yn cyd-ymladd yn eu herbyn. Ddychrynwyd hwynt nes gwneud heddwch â'u gilydd gan enbydrwydd yr amseroedd. Yr oedd y Daniaid eto'n diffeithio Lloegr a Gwent a Morgannwg a Brycheiniog a Buallt a Gwynllwg. Yr oedd haint a newyn yn dilyn eu camrau diffeithiol. Yn yr Iwerddon diffygiodd y bwyd, canys daeth pryfed o'r nef i'w fwyta, a dau ddant gan bob un. Yn erbyn y gelyn newydd hwn, nid oedd gan y Gwyddel ond ympryd a gweddi. Tua 909 ymosododd Daniaid Ingimundr ar ddeheudir Cymru, a gwynebwyd yr arweinydd ffyrnig hwn gan fyddin Cadell a byddin arglwyddes Mercia, chwaer Alfred. Ac yn yr amser hwn bu Cadell farw. Aeth yr ymdrech yn erbyn y Daniaid ymlaen am flynyddoedd lawer, a chollodd llawer un o dylwyth Alfred ac o dylwyth Rhodri Mawr ei fywyd wrth geisio eu cadw o'i wlad.
O Fôn i Fynwy ymleddid bob blwyddyn ymron ar y