Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

traeth, a llawer un heblaw mab Merfyn gollodd ei fywyd wrth amddiffyn Môn neu Dyddewi.

Bu Alfred farw yn 901, Cadell yn 908, ac Anarawd yn 915, a chladdwyd yr arglwyddes Aethelflaed yng Nghaerloyw yn 918. Rhwng y rhai hyn i gyd, yr oedd gallu'r Daniaid wedi ei ddinistrio am beth amser. Daeth Edward, mab Alfred, i reoli yn ei le. Nid oedd yr un o feibion ac wyrion Rhodri Mawr yn frenin ar Gymru i gyd; ac yr oedd meibion Cadell, brodyr Hywel Dda, yn ymladd â'u gilydd. Ail ddechreuodd brenhinoedd Wessex feddwl am unbennaeth yr ynys.

Yr ydym wedi teithio peth trwy anialwch hanes y nawfed ganrif, - oes Rhodri Mawr ac Alfred. Prif nodwedd y ganrif yw ei hanrhefn, - cenhedloedd yn gadael hen gartrefi ac yn ymosod ar wledydd eraill, hen ddeddfau'n malurio dan draed anghyfraith, tylwyth yn ymladd yn erbyn tylwyth, a deiliaid yn erbyn brenin ymhob man.

Nid anrhefn ac anghyfraith oedd breuddwyd brenhinoedd y ganrif. Tua'r flwyddyn 800, gallasid meddwl y buasai holl wledydd cred yn fuan mewn heddwch, dan gysgod teyrnwialen gref mewn llaw gyfiawn. Yr oedd anrhefn wedi teyrnasu dros wledydd Ewrob; ond, nos cyn Nadolig 800, yr oedd esgob Rhufain wedi gosod coron aur y byd ar ben Carl Fawr, - Siarlymaen y chwedlau. Nid oedd Carl ond arweinydd un o'r llwythau Teutonaidd oedd newydd gymeryd enw Cristionogion, ac nid oedd esgob Rhufain ond arolygwr eglwysi y ddinas fu'n brif ddinas y byd. Yr oedd gan Carl allu milwrol, yr oedd gan esgob Rhufain ogoniant traddodiadau a chyfraith hen allu Rhufain. Ac o 800 allan, yr oedd y ddau i lywodraethu Ewrob, -y naill yn Ymherawdwr a'r llall yn Bab. Trwy rym yr anwariaid oedd wedi dinistrio Ymherodraeth Rhufain, unwyd yr hen