Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/111

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymherodraeth â Christionogaeth, a gwelwyd hi'n ymddyrchafu drachefn fel Ymherodraeth Sanctaidd Rhufain. Yr oedd dynolryw i fod dan un gallu gwladol a than un gallu ysbrydol, dan yr Ymherawdwr ar Pab. Ac o hynny hyd ein dyddiau ni, y mae ymdrech rhwng ymherodraeth a rhyddid, rhwng offeiriadaeth a chydwybod. Ymdrech ydyw rhwng hen allu Rhufain ac anibyniaeth cenhedloedd, rhwng gallu milwrol ac athrylith, rhwng awdurdod a rhyddid, rhwng deddf unffurf ac amrywiaeth tyfiant, rhwng ysbryd Rhufain ar y naill law ac ysbryd Athen a Chaersalem ar y llaw arall.

Yr oedd yr un ymdrech yn ynys Prydain. Yr oedd Egbert wedi dod o lys Carl Fawr i'w deyrnas, ac yr oedd wedi penderfynu troi brenhiniaeth llwyth yn ymherodraeth. Yr oedd yr un meddwl yng Nghymru hefyd. Tybiodd Rhodri Mawr y medrai wneud ymherodraeth Gymreig o'r llwythau oedd yn ymladd â'u gilydd dan wahanol frenhinoedd. Dyma oes adfywiad traddodiadau Arthur; tybiodd y Cymry fod iddynt hwythau ymherawdwr unwaith, fel Carl Fawr.

Ofer fu'r ymdrech hon i sefydlu ymherodraeth. Ofer fu ar y cyfandir; rhannwyd tiriogaethau enfawr Carl. Ofer fu yn Lloegr, daeth y Daniaid cyn i Egbert orffen ei gynllun; a phe buasent heb ddod, yr oedd anibyniaeth y tylwythau Anglaidd a Sacsonaidd yn rhy gryf iddynt ymlonyddu dan ymherawdwr. Ofer fu yng Nghymru hefyd; yn fuan wedi marw Rhodri Mawr, os nad cyn ei farw, yr oedd yr anrhefn cynddrwg ag erioed.

Un rheswm am fethiant Rhodri oedd dyfodiad y Daniaid. Pwy fedrai reoli mewn heddwch pan oedd mw^g rhyw hen eglwys sanctaidd yn esgyn mewn rhyw gyfeiriad o hyd? A phwy fedrai weinyddu cyfraith tra'r oedd llongau lladronllyd yn barod i groesawu