Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/112

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pob ffoadur, ac i roddi byddin iddo i'w harwain yn erbyn ei frenin?

Ond prif achos methiant Rhodri oedd awydd cryf y tywysogion am fod yn anibynnol. Yr oedd ffyddlondeb y deiliaid i'w tywysogion yn gryfach yng Nghymru, hwyrach, nag yn unlle; a gwaith anobeithiol oedd torri nerth tywysog heb wneud ei genedl yn elynion chwerwon ar yr un pryd. Llwyddodd llawer brenin Cymreig i uno'r tywysogion mewn adegau cyfyng; ond ni lwyddodd brenin erioed pan yn ceisio darostwng eu gallu am byth i'w gyfraith ei hun. Y Norman ddarostyngodd ieirll anibynnol Lloegr; ar estron fu'n allu yn llaw Rhagluniaeth i ddinistrio gallu'r tywysog Cymreig. Ond yn y nawfed ganrif efe ac anrhefn oedd yn llywodraethu.

Cyn y medrid cael gwlad unol dan frenin galluog, yr oedd yn rhaid cael cenedl oleuedig a gwladgar. Ond ni fedrai gwahanol ardaloedd Cymru fyw heb eu tywysogion bach. Cynllun Rhodri oedd rhoddi brenhinoedd iddynt o'i dylwyth ei hun. Yr oedd hyn yn hanner y ffordd rhwng tywysogion anibynnol a brenhiniaeth unedig gref. Hawdd ydyw beio Rhodri am fethu uno Cymru'n un deyrnas. Ond cofier ei anhawsderau. Nid oedd bosibl i lysoedd y gwahanol ardaloedd weithio heb dywysog, ac ni fedrai'r brenin mwyaf teithiol gymeryd lle'r tywysog ymhob man. Ymhell wedi amser Rhodri y daeth y brenin i anfon swyddogion yn ei le; yr unig beth fedrai brenin y nawfed ganrif wneud oedd penodi is-frenhinoedd ffyddlon iddo. Nerth Rhodri oedd nifer ei feibion.

Tybiwyd ymhell ar ôl amser Rhodri mai efe rannodd Gymru yn Wynedd, Powys, a Deheubarth. Felly, hefyd, y tybiwyd mai Alfred rannodd Loegr yn siroedd. Y gwir yw i Rodri ac Alfred ddefnyddio'r rhaniadau hyn at eu pwrpas eu hunain; ni fuasent yn eu creu.