Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Peth rhyfedd yw dweud am oes anrhefn mai oes cyfraith ydoedd. Ond dyna'r gwir. Yr oedd y Daniaid wedi parlysu pob braich cyfiawnder, yr oedd gwŷr traws yn rhy gryfion i un llys barn. Ac ymdrech y brenhinoedd oedd adfer cyfraith. Yr oedd Carl Fawr wedi rhoi cyfraith i'w ymherodraeth, dan gyfarwyddyd meddylwyr enwocaf ei ddydd. A cheisiodd brenhinoedd Lloegr a Chymru ei ddynwared. Y mawr, yr hen, a'r doeth, y gelwir ef gan Asser, y mynach Cymreig o Ddyfed ysgrifennodd hanes bywyd Alfred.

Yn Lloegr, Alfred oedd y deddfroddwr. Casglodd hen gyfreithiau, a newidiodd hwy yn ôl ysbryd Cristionogaeth. Cyfaddasodd hwy hefyd i anghenion ei oes ei hun.

Yng Nghymru, un o wyrion Rhodri Mawr, - Hywel Dda,oedd y deddfroddwr. Teyrnasodd Hywel ar rannau o Gymru rhwng 909 a 950. Gelwir ef gan y croniclau yn frenin Cymru, ond na feddylier oddi wrth hynny ei fod yn frenin ar Gymru i gyd. Ond os nad oedd yn frenin ar Gymru, paham y dywedi'r fod ei ddeddfau yn ddeddfau i Wynedd, Dyfed, a Gwent, yn eu gwahanol dafod ? ieithoedd? Un rheswm ydyw mai arferion llysoedd gwlad wedi eu casglu ynghyd oedd ei gyfreithiau, rhai fuasai'n gyfraith pe bai Hywel Dda heb ei eni erioed. Rheswm arall oedd hwn, - yr oedd yr eglwyswyr yn helpu Hywel i wneud y cyfreithiau'n fwy tebyg i gyfreithiau'r Beibl, ac yr oeddynt hwy'n dweud wrth drigolion pob talaeth mai dull Hywel oedd dull y gyfraith iawn. Wedi anrhefn dyddiau'r Daniaid, da oedd cael yr hen gyfreithiau, wedi eu cyfnewid yn ôl anghenion newydd yr amseroedd newyddion. Dywedi'r fod Hywel Dda wedi galw tywysogion Cymru at eu gilydd yn yr Hen Dy Gwyn ar Daf, a'i fod yno wedi ail gyhoeddi cyfreithiau ei wlad, gan eu nhewid yn ôl cyngor y tywysogion ar esgobion. Oddiwrth