Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y cyfreithiau hyn, gellir cael syniad pur glir am ddull bywyd politicaidd Cymru yn y nawfed a'r ddegfed ganrif. Y mae'r brenin erbyn hyn yn bwysig iawn, ac y mae ei weision yn brysur ddod yn weision gwlad. Ond y mae y tywysogion yn bwysig hefyd, ac y mae'n amlwg nas gallai'r brenin wneud fawr ond yn hen ddull y genedl. Syml iawn oedd y syniad am ddrwg, ac am anghyfiawnder, - yr oedd pris cymod yn perthyn i bob drwg gyflawnid, rhyw hyn a hyn o wartheg. Yr oedd i bob rhan o'r corff ei bris, yn ôl defnyddioldeb y rhan. Nid bywyd oedd bwysicaf, ond bywyd y brenin; ac yr oedd modd talu iawn hyd yn oed am ladd brenin, - can buwch am bob cantref, tarw gwyn a chlustiau cochion gyda phob can buwch, gwialen arian cyhyd a'r brenin, a dysgl aur cyfled a'i wyneb.

Y mae tri phrif gasgliad o gyfreithiau Hywel Dda, - yn nhafodiaith Gwynedd, Dyfed, a Gwent. Casgliad o gyfreithiau y tair talaeth ydyw y rhain, - yn rhoddi darlun pur lawn o fywyd yr oes. Faint o'r cyfreithiau hyn gasglodd Hywel Dda, a faint ychwanegwyd wedyn, cawn weled wrth ymdrin â hanes cyfreithiau Cymru.

Dywed y croniclau fod Hywel Dda wedi mynd â'i gyfreithiau i Rufain, i'w dangos i'r pab. Y mae llawer o bethau anhygoel yn hanes y daith hon, ond y mae'n ddigon tebyg i Hywel Dda fod yn Rhufain.

Aeth llawer brenin ar bererindod i hen brifddinas y byd, o Gymru ac o Loegr, yn yr amseroedd hyn.

Pen a moliant yr holl Frytaniaid oedd Hywel Dda, medd Brut y Tywysogion. Ond prin y gellir edrych arno, er clodfored oedd, fel brenin holl Gymru. A ffeithiau digon trist ydyw ffeithiau adeg Hywel Dda. Yr oedd y Daniaid oedd wedi ymsefydlu yn Nulyn yn diffeithio Môn: yr oedd y Saeson yn gwneud mynych ruthr i Gymru, gan ladd ryw dywysog; yr oedd y gwahanol dalaethau yn ymladd yn erbyn eu gilydd.