Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhwng marw Hywel Dda ac amser Llywelyn ab Seisyllt, - o 950 hyd 1010,-nid oedd frenin ar Gymru, ond mân frenhinoedd ar y gwahanol rannau. Ac o bob cyfnod, dyma'r adeg yr oedd yn rheitiaf wrth frenin ac undeb.

Yr oedd y cenhedloedd duon wedi ail ddechreu ymosod ar ochr y môr. Fel o'r blaen, y lleoedd agosaf at y môr oedd yn dioddef, lleoedd y gallai'r Daniaid forio i fyny atynt hyd yr afon yn y nos, a lleoedd y gellid eu cyrraedd yn hawdd o'u llongau, a dianc yn ôl cyn i'r wlad godi i'w herlid. Lleoedd felly oedd Caer Gybi, Penmon, Aberffraw, Llanbadarn, Llandudoch, Tyddewi, a Llanilltud. Ond yr oedd llynges Seisnig rhyngddynt â Chaer Lleon ar Wysg.

Tra'r oedd y cenhedloedd duon yn ymosod ar Gymru o'r môr, yr oedd y Saeson drachefn yn ei bygwth o'r tir. Yr oedd brenhinoedd Wessex yn meddwl ennill unbennaeth yr ynys. Yr oedd Edward, mab Alfred, wedi gorchfygu'r Daniaid, ac yr oedd y Cymry wedi derbyn ei amddiffyniad ef ac amddiffyniad ei dad, yn erbyn y môr-ladron. Ond, yn bur fuan, gwelodd tywysogion y Cymry fod yn well iddynt hwy wneud cyfeillion o'r môr-ladron nag o'r Saeson. Yr oedd cyflwr rhanedig Cymru yn temtio brenhinoedd Wessex i ymosod arni, yr oedd yn hawdd iddynt feddiannu ei broydd brasaf heb i'r broydd eraill gynhyrfu dim.

Bu teulu Rhodri'n weddol unedig; ond pan aethant yn gefndryd, buan y dechreuodd ymladd ffyrnicach rhyngddynt nag a welwyd rhwng dieithriaid hyd yn oed yn y dyddiau hynny. Yr oedd ysbryd anrhefn wedi lledu ei esgyll dros y byd. Yr oedd trais a melldith a newyn yn tramwy trwy'r ddaear. Yr oedd y flwyddyn 1000 yn ymyl. Yr oedd y byd mor ddrwg fel y tybiodd amryw fod ei ddiwedd yn ymyl. Cymysgwyd syniadau'n rhyfedd, - meddyliai pobl am y mil blynyddoedd ac am ddyfodiad y Barnwr i farnu yr oes draws honno.