Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD X
DAU FRENIN GALLUOG.

ADEG ofn a dychryn oedd y flwyddyn 1000; ac wedi iddi fyned heibio dechreuodd pobl anadlu'n rhwyddach, ac edrych oddi amgylch i chwilio am rywun a'u harweiniai i heddwch a llawnder drachefn.

Tybiai llawer mai'r flwyddyn 1000 fyddai diwedd y byd. Yr oedd pob peth yn ddrwg iawn, a thybid fod y Barnwr ar ddod ar gymylau'r nef. Y mae'n anodd rhoddi un rheswm clir am y dyb hon; o wahanol anghyson dybiau y tarddodd. Yr oedd yr apostol Paul wedi gorfod rhybuddio'r Thesaloniaid rhag tybied fod diwedd y byd yn ymyl. Ond ofer oedd ei rybudd, mynnai dychymyg y byd dynnu'r dydd olaf ar Farn yn agos. A meddylid yn sicr, pan oedd y filfed flwydd yn dod, mai hi fyddair diwedd. Yr oedd Awstin, fe ddywedid, yn credu hynny. Ac yr oedd llawer wedi cymysgu'r Milflwyddiant yn eu meddyliau gyda'r flwyddyn 1000.

Hawdd oedd meddwl fod diwedd y byd yn ymyl. Yr oedd y Babaeth, ar ôl gwrhydri dros grefydd, wedi suddo i ddyfnderoedd llygredigaeth. Anaml bab gâi farw o farwolaeth yr union, - yr oeddynt yn llofruddion, yn ysbeilwyr, ac yn odinebwyr ar y gorau. Dwy ddynes anfad oedd yn dweud pwy gâi eistedd ar orsedd Pedr a llywodraethu'r Eglwys. Yn 999 yr oedd Pab newydd wedi dod, - Sylvester yr Ail, - ac wedi penderfynu puro'r Babaeth ar offeiriadaeth. Y mae moesoldeb Rhufain yn rhyfeddod i'r byd, meddai, yn chwerw. Yr oedd Sylvester wedi bod gyda Mahometaniaid yr Yspaen, ac wedi yfed o ffynhonnau eu dysgeidiaeth, ac wedi gweled