Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mor fawreddog â phur oedd eu crefydd hwy rhagor Cristionogaeth ddirywiedig ei ddydd. Ond prin yr oedd wedi cael yr awenau i'w ddwylaw, prin yr oedd wedi cael agor ei lygaid ar yr holl lygredigaeth oedd yn Rhufain, pan dorrodd angau ef i lawr. A oes rhywun, gofynnid, ond Barnwr y dydd diweddaf, fedr buro Rhufain a'i hoffeiriaid yn y flwyddyn 1000?

Yr oedd yr ymerawdwr yn gwisgo llawer coron - coron yr Almaen, coron haearn yr Eidal, a choron aur y byd. Ato ef y gallai'r gorthrymedig apelio yn erbyn y bleiddiaid dynol oedd yn cyniwair trwy'r gwledydd. Ac yr oedd breuddwyd wedi codi o flaen dychymyg Otto'r Trydydd, yr ymerawdwr elwid yn Rhyfeddod y Byd. Yr oedd wedi meddwi am buro byd ac eglwys, ac i roddi holl alluoedd ei ymherodraeth fawr ar waith i ddarostwng anghyfiawnder a drygioni, ac i gynorthwyo'r tlawd a chodir gwan i fyny. Ond pan ar fin sylweddoliad ei freuddwyd, a phan wedi croesi'r Alpau i'r Eidal, daeth angau mewn dull dieithr ac ofnadwy i'w dorri yntau i lawr tua'r flwyddyn honno.

Yr oedd cedyrn arfog ymhob man, ac nid oedd ymwared i'r tlawd a'r gwan. Yr oedd Ffrainc yn llawn o ysbeilwyr mewn cestyll cedyrn, a phrin y meiddiai'r blodau dyfu yn y wlad honno. Yn Spaen yr oedd y Mahometaniaid anorchfygol yn rhuthro dros gaerau tref ar ôl tref. Yr oedd llofrudd ar orseddfainc Cystenyn yng Nghaercystenyn ardderchog; a thraw, y tu hwnt i'r Tigris ar Gihon, yr oedd y Twrc creulon yn dechrau edrych yn flysig ar sefyllfa ddiamddiffyn gwledydd cred.

Yn Lloegr yr oedd rhyfel enbyd rhwng y brenin Ethelred ar Daniaid. Yr oedd y Saeson a'r Daniaid wedi ymgreuloni, a llawer lladdfa fawr fu yn amser heddwch. Yn y flwyddyn 999 yr oedd Swegen a'i farbariaid yn ymosod ar yr ynys, ac nid oedd a fedrai ei wrthsefyll.