Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr oedd Cymru hefyd yn cael ei hanrheithio yn druan. Ymosodai'r Daniaid arni'n ddibaid o ochr y môr, ymosodai'r Saeson arni o'r tir, ac yr oedd ei thywysogion yn ymladd â'u gilydd tra'r oedd y gelyn yn ymosod arnynt o bob tu. Drachefn a thrachefn codai mwg Tyddewi a Llanbadarn a Chaer Gybi i'r nefoedd, a'r barbariad yn crechwen wrth ei weled o'i long, - arwydd sicr fod ei ffagl wedi llwyddo. Drachefn a thrachefn treiddiodd lluoedd Seisnig i ganol Cymru, gan ddiffeithio'r dyffrynnoedd a'u gwneud yn anialwch unig.

Ac ymysg y tywysogion yr oedd ymladd. Yr oedd teulu Rhodri wedi colli eu gafael ar bob rhan o Gymru; ac ni wyddai neb ym mha le yr oeddynt, ac a oedd rhai o honynt ar dir y rhai byw. Yr oedd cred gref yng Nghymru mewn brenin, yr oedd yno adar na chanent ond ar arch y brenin cyfiawn. Bu rhyfel rhwng tywysogion am le'r brenin. Rhyw Aedan, fab Blegywryd, oedd fwyaf nerthol, ac efe a'i bedwar mab oedd yn tra-arglwyddiaethu ar Gymru.

Ni ddaeth Barnwr y byd ar y cymylau yn y flwyddyn 1000. Daeth blynyddoedd ar ei hol fel o'r blaen. Yr oedd llawer wedi trosglwyddo eu tiroedd i'r eglwysi, - fel pe buasai'r eglwysi'n meddu gallu i'w rhwystro i losgi yn y goelcerth ddiweddaf, - a gwelsant yn awr na fuasai waeth iddynt heb. Ailddechreuodd bywyd pob gwlad. Daeth Flildebrand cyn bo hir i buro'r Babaeth trwy ymdrechion mawr. Daeth Harri'r Sant i godi'r Ymherodraeth i binacl uchaf ei gogoniant. Trodd Cnut, brenin Danaidd Lloegr, yn ŵr trugarog a mwyn. Ac yr oedd obaith fod y barbariaid symudol yn peidio â'u cyffro; yn Spaen yr oedd brenin Castile wedi gorchfygu'r Mahometaniaid, draw ar ororau Poland a Hungari yr oedd y barbariaid newydd ddod yn Gristionogion eiddgar; ac yn ymyl, yn yr Iwerddon, yr oedd Brian Borumha