Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/119

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi dinistrio gallu'r cenhedloedd duon ym mrwydr fawr Clontarf.

A'r amser hwnnw daeth ymwared i Gymru hefyd, drwy rym a doethineb Llywelyn ab Seisyll. O'r De y daethai Llywelyn, ond yn y Gogledd yr oedd ei nerth. Yr oedd wedi priodi un o hil Rhodri, os nad oedd o hil Rhodri ei hun. Angharad oedd ei wraig, merch y Meredydd oedd wedi rheoli gwyr Dyfed am beth amser wrth eu bodd. Yr oedd Meredydd yn fab i Owen, a hwnnw'n fab i Hywel Dda.

Yr oedd Meredydd wedi marw yng nghanol y rhyfeloedd â'r cenhedloedd duon ac â phennau teuluoedd Cymreig oedd yn ymgeisio am y goron. Yr oedd Daniaid y môr a Saeson y tir wedi cyfarfod eu gilydd wrth ddiffeithio, ac nid oedd lle diogel i'r gwan yng Nghymru i gyd.

Ar Wynedd y dechreuodd Llywelyn deyrnasu, drwy orchfygu Aedan a'i feibion, a Meurig fab Artlifael. Tybiodd rhyw Ysgotyn y medrai yntau deyrnasu ar y De, trwy ddychmygu yn gelwydd ei fod yn fab i Feredydd frenin. Cymerodd gwyr y De y Rhein hwn yn frenin arnynt, a chynyddodd ei allu. Nis gallai dau fod yn frenin Cymru, ac apeliwyd at y cledd i benderfynu rhwng Llywelyn ar ymhonnwr. Ymdeithiodd Llywelyn a'i luoedd tua'r De; a daeth yr Ysgotyn i'w gyfarfod. Dywedodd Rhein yn ymddiriedus wrth wŷr y De mai efe a orfyddai, a chredasant hwythau y chwyddedig drahaus anogwr hwnnw. A rhuthrodd y ddwy fyddin yn erbyn eu gilydd yn Aber Gwili, gan fedi eu gilydd i lawr. Gwnaeth gwyr Gwynedd lewder, a darfu ymffrost Rhein, ac a gilyawdd yn waradwyddus o lwynogawl ddefawt". Ar ol y frwydr hon, y mae'n amlwg i Gymru i gyd ddod dan lywodraeth Llywelyn.

Peidiodd y cenhedloedd duon a diffeithio, a daeth y wlad yn heddychlon a llawn drachefn. Peidiodd cyffro'r tywysogion, yr oedd y brenin yn ddigon cryf