Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i gadw'r heddwch rhyngddynt. Cofid am Lywelyn fel pennaf a chlodforusaf frenin o'r holl Frytaniaid. Arferai hen wŷr y deyrnas ddweud yn ei amser ef fod ei deyrnas, o'r môr bwy gilydd, yn gyflawn o amlder da a dynion, hyd na thebygid fod tlawd na gwan yn yr holl wledydd, na thref wag na chyfle diffyg.

Paham y daeth Llywelyn mor gryf, a pha fodd y medrodd wneud ei wlad mor ddedwydd? Trwy ymgyfamodi â brenhinoedd y Gwyddelod yn erbyn y cenhedloedd duon. Yr oedd clod brenin Cymru wedi cyrraedd i gyrrau eithaf yr Iwerddon, ac y mae'r croniclydd Gwyddelig yn sôn am ei farw wrth sôn am farw ei frenhinoedd ei hun.

Cyn marw Llywelyn dechreuodd y cenhedloedd ail anrheithio, a thraw yng nghwr pellaf ei deyrnas gwelodd y brenin Dyddewi ar dân.

Yn 1022 (yn 1023 yn ôl y croniclau Gwyddelig) y bu Llywelyn ab Seisyll farw. Gyda'i farwolaeth ymadawodd yr heddwch a'r llwyddiant i gyd. Aeth Rhydderch fab Iestyn a'r De oddi wrth y Gogledd. Lladdwyd Cynan fab Seisyll; ac aeth Gruffydd, mabo Llywelyn, ar ffo. Lladdwyd Rhydderch gan yr Ysgotiaid; a daeth meibion Edwin, - Meredydd a Hywel, - i'w le. Yna bu brwydr Hiraethwy rhyngddynt a meibion Cynan. Yr oedd y Saeson yn bygwth hefyd; ag yr oedd Iago frenin Gwynedd yn rhy wan i'w gwrthsefyll. Ymha le yr oedd Gruffydd, mab Llywelyn?

Tua 1038 lladdwyd Iago, ac yr oedd y ffordd yn rhydd i Ruffydd ab Llywelyn. Yr oedd ei dad wedi dangos iddo pa fodd i ennill ei deyrnas, a pha fodd i'w rheoli. Y peth cyntaf oedd gyrru'r Saeson dros y terfyn adre, yr ail beth oedd darostwng penaethiaid Cymreig gwrthryfelgar oedd yn gwrthod ymostwng iddo. Wedi hynny, tybiai Gruffydd ab Llywelyn y medrai herio pob ymosodiad o Loegr arno.