Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a rhowd y sant i eistedd yn gysurus yn y graig yng nghader yr hen dduw. Rhoddwyd sant yn lle hen dduw i warchod dyfroedd iachaol ffynnon Degla hefyd. Yr oedd y claf i orwedd dan allor yr eglwys drwy'r nos, a gollyngai aderyn i ehedeg o gwmpas yr eglwys wag. Os byddai'r aderyn wedi marw erbyn y bore, byddai afiechyd y pererin wedi myned iddo ef, a'r pererin ei hun yn holliach. Ac felly y gwnaeth saint eraill gydag hen dduwiau eraill.

Cenid clodydd ffynnon Gwenffrewi gan Iolo Goch, bardd Owen Glyn Dŵr, ac un o feirdd mwyaf y canol oesoedd. Cadwodd llawer ffynnon ei rhin tan ein dyddiau ni; ac aberthir pin neu ddernyn o frethyn eto ger ffynhonnau gâi ragorach aberth gynt.

Er wedi ei darostwng i grefydd y goleuni, cadwodd hen grefydd dywyll y mynyddoedd ei gorsedd mewn llawer modd. Aeth ei haberthau a'i duwiau, i raddau pell, yn rhan o grefydd newydd.