Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/133

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Meddiannwyd eraill gan Gristionogaeth, megis Naf. Erys rhai mewn enwau lleoedd, megis Tegid. Ond erys y rhan fwyaf fel arwyr hanner dynol, megis Cai, Bran.

Y mae llawer llecyn yng Nghymru fu'n gysegredig gynt i'r hen dduwiau. Y mae llyn du trist yn Eryri o'r enw Dulyn. Aberthid ar ei gerrig unwaith aberthau i dduw'r gwlaw. Dechrau'r ganrif hon, ceid gwlaw drwy daflu dŵr ar y garreg bellaf yn y llyn, a elwid yn allor goch. Y mae llawer crug a thomen a gorsedd fu'n gysegr i ryw dduw a ofnid gynt. Ni feiddiai neb fynd i orsedd Arberth heb orfod dioddef poen corfforol am ei ryfyg:[1] ni fedr neb gysgu ar ben Cader Idris heb fod yn barod i dderbyn un o dri pheth a gynhigid iddo,- athrylith, gwallgofrwydd, neu farwolaeth. Y mae llawer pen bryn nas gellir cloddio ynddo heb dynnu ystorm o fellt a tharanau, - y mae ofn yr hen dduwiau wedi aros eto yng ngreddf gwlad.

Lle'r arhosodd gallu'r hen dduwiau hwyaf oedd o gylch ffynhonnau. Yr oedd ugeiniau o ffynhonnau hyd Gymru, ac yr oedd ugeiniau o fân dduwiau'n warcheidwaid i'r rhain, duwiau fedrai daro â chlefyd, neu iachau. Gwaith cymharol hawdd i Gristionogaeth oedd gorchfygu'r duwiau pwysicaf; ond gwaith anodd iawn oedd gorchfygu'r mân dduwiau hyn. Arosasant hyd ein dyddiau ni. Y peth wnaeth y cenhadon Cristionogol oedd cymeryd lle'r hen dduwiau, a chymeryd meddiant o'r ffynhonnau eu hunain. Daeth sant at y ffynnon, yn lle'r hen dduw, a daeth y bobl a'u hafiechydon at y dyfroedd yr un fath. Wrth odreu Carn Bentyrch yr oedd ffynnon rinweddol, a delw duw, - mae'n debyg, - yn ei gwylio yn agen y graig wrth ben. Daeth Cybi sant, ebe'r hanes, i Langybi; galwyd y ffynnon yn ffynnon Gybi,

  1. Gwel fabinogi Pwyll Pendefig Dyfed. Arg. Rhdychen 1-25