Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/132

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fodd y medrai wneud plasdy hud, plasdy na fedrai carcharor ddod o honno byth. Gwnaeth hithau blasdy felly o gwmpas Myrddin pan oedd yn cysgu, ac yn y tŷ gwydr hwnnw y mae Myrddin byth.

Y mae Llyr wedi dod yn enw adnabyddus oherwydd ei fod yn destun un o ddramâu gorau Shakespeare, ac y mae Coel wedi aros mewn hwiangerdd. Duwies fu mewn bri mawr oedd Elen Luyddawg. Y mae darluniad prydferth o honni ym Mreuddwyd Macsen Wledig. Gwelodd Macsen hi mewn breuddwyd, yn eistedd mewn cader aur, ac yr oedd mor anodd edrych ar ei thegwch disglair ag ar haul pan fydd decaf. Mewn amser anwylwyd ei henw trwy ei gysylltu ag enw'r ymerawdwr Rhufeinig cyntaf gofleidiodd Gristionogaeth. Gelwir yr hen ffyrdd syn croesi ein mynyddoedd ar ei henw hi.

Clywai Mâth Hen beth a ddywedid mewn unrhyw bellder; ond yr oedd llawer o dduwiau a rhyw anaf corfforol neu arwydd henaint arnynt, megis Tegid Foel a Dyfnwal Moelmud. Gwydion ab Don ydyw'r mwyaf prydyddol a difyr o'r holl hen dduwiau, - efe greodd Flodeuwedd o wahanol flodau, efe ddaeth a moch o'r de, efe oedd yr hanesydd huawdl a'r adroddwr ystraeon difyr. Gwyn oedd brenin y Tylwyth Teg a'r marw, Cai oedd duw'r tân, Beli Mawr oedd duw rhyfel, Pwyll fedrodd reoli uffern drwy rym a doethineb. Yr oedd Owen a'i frain yno hefyd, a Pheredur, a llu o dduwiau eraill. Nid Elen oedd yr unig dduwies ychwaith; yr oedd Ceridwen ymysg duwiesau hen Gymru, yn paratoi defnynnau doethineb yn ei phair ger Llyn Tegid; yr oedd Dwynwen yno hefyd, duwies cariad, a'i ffynnon yn datguddio cyfrinion serch.

Mae enwau llawer o'r hen dduwiau, mae'n ddiamau, wedi diflannu. Erys rhai fel enwau ar ysbrydion drwg, megis Ellyll.