Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y ddaear hwyrach; Tra'r oedd tŷ'r byw ar gynllun mwy cyfaddas at anghenion newyddion y bobl.

Ond, wedi dod i gyffyrddiad â'r Iberiad, cafodd y Celt syniadau eraill am fyd y bedd. Dysgodd grefydd newydd, - sef derwyddiaeth. Y mae'n ddi ddadl mai o'r Iberiad gorchfygedig y cafodd Celtiaid Ffrainc a Phrydain y grefydd hon. Ymysg yr Iberiaid, yn eithafion gorllewinol Cymru, yr oedd ei dysgawdwyr gorau. Oddi yno, sylwai dieithriaid, yr adnewyddid derwyddiaeth; oddi yno y deuai ei hoffeiriaid.

Y mae'n amlwg beth oedd effeithiau'r grefydd dywyll hon. Yn un peth, gwnâi i ddynion gofio fod duwiau creulon eiddigus yn gwylio symudiadau eu bywyd; a pheth arall, rhoddai ddylanwad anarferol i'r offeiriaid. Ei drwg oedd, - gwnâi fywyd dynion yn anhapus, dan gysgodion tywyll o hyd; a rhoddai allu dirfawr yn nwylaw offeiriaid wyddent ba fodd i orthrymu. Ei da oedd, - rhoddai atalfa ar nwydau hunanol yr anwar; a rhoddai allu yn llaw rhywun heblaw'r Celtiaid trahaus.

Lludd Law Arian oedd duw trafnidiaeth ar fôr a thir, perchennog a rhoddwr diadelloedd a llongau. Y mae olion ei deml i'w gweled eto ar lan yr Hafren, mewn lle yn dwyn ei enw, - Lydney. Y mae Lydstep yn neheudir Penfro. Yr oedd teml i'r un duw,. mae'n ddiamau, yn y lle y deuai llongau i fyny'r afon Tafwys, - lle mae Llundain yn awr. Dyna ystyr yr enw Cymreig am y brifddinas, - Caer Ludd; a dyna ystyr enw Ludgate Hill hefyd. Cofid am Ludd fel gwaredwr ei wlad oddi wrth dair gormes.[1]

Hen dduw diddorol arall oedd Myrddin. Syrthiodd hwn mewn serch, a dangosodd i'w gariad pa

  1. Gweler fabinogi Lludd a. Llefelys. Arg. Rhydychen