Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hen wraig y cododd hi er ei mwyn. Yr aberth oedd y peth byw cyntaf groesai. Yr oedd yn meddwl yn sicr mai'r hen wraig fyddair peth byw hwnnw. Ond anfonodd hi ei chi o'i blaen, ac - nad oedd hwnnw'n aberth gwerth trafferth yr ysbryd drwg. Traddodiad ydyw'r hanes hwn, mae'n sicr, am yr aberthu bywyd fu wrth osod sylfeini pontydd.

Allor yr Iberiad oedd yr allor waedlyd honno. Ei grefydd ef oedd derwyddiaeth. Yr oedd crefydd ac addoli yn ei natur, ac yr oedd ofn byd arall ym ei wneud yn wasaidd i'r offeiriaid oedd yn gwybod meddwl y duwiauo.Ond yr oedd gan y Celt fwy o nerth corff, a llai o ddychymyg. Nid oedd rhyw lawer o wahaniaeth rhwng ei dduwiau ef a dynion, mwy nag oedd rhwng duwiau'r Teutoniaid a dynion.

Ymffrostiai yn ei nerth ei hun, wrth hela'r baedd ar arth, ac wrth gyfarfod ei elyn mewn brwydr ffyrnig. Y parch a dalai o gwbl, fei talai'i ysbrydion ei gyndadau, ac nid oedd ei dduwiau ond ei hynafiaid ef ei hun.

Y mae'r gromlech ar lun y tŷ. Yn aml y mae cylch o gerrig geirwon ar eu pennau yn y ddaear, a dwy res o gerrig eraill yn myned tuag atynt. A'i y rhain, un waith, yr oedd to o bridd. Dyna dŷ cyntefig y llwyth. Gwnaed y bedd ar lun y tŷ ,- preswylfa'r marw oedd. Ym mhlith rhai llwythau paganaidd, hyd y dydd hwn, gadewir yr hen dŷ i gorff marw'r pen teulu, a thry'r teulu allan i chwilio am dŷ newydd. A oedd y llwythau'n addoli wrth y gromlech, wrth fedd eu pennaeth? Maen ddiamau eu bod; nid oedd fawr o wahaniaeth rhwng dal cymundeb â'u hynafiad a'i addoli. Yn y gromlech yr oedd eu pennaeth coll yn byw, a chyda pharch y dynesent at y lle. Ceidwadol iawn ydyw dyn, ymhob oes, gyda seremonďau claddu. Yr oedd y gromlech, - tŷ'r marw, ar lun ei adeiladau cyntaf, ogofeydd yn ,