Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/129

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gafael ar y bobl os gadawent i'w dysg fynd o'u dwylaw trwy ei roddi ar ysgrif: a pheth arall, tybient fod rhoddi gwybodaeth mewn ysgrif yn magu diogi yn y meddwl trwy arbed llafur. Un o'u prif ddaliadau, - daliad dynnai sylw Iwl Cesar mewn modd neilltuol, - oedd eu cred yn nhrawsfudiad eneidiau. Dalient nad oedd yr enaid yn marw, ond ei fod yn mudo o'r naill i'r llall. Hyn oedd un rheswm am wroldeb y rhyfelwyr, - yr oedd ofn marw wedi ei dynnu o'u meddwl. Dysgent eu disgyblion, hefyd, y peth wyddent am y sęr a'u troeon, am faint y byd, am natur pethau, ac am allu a grym y duwiau anfarwol.

Teyrnasent ar bobl dra chrefyddol. i'w meddwl hwy, y duwiau oedd yn rheoli pob peth. Pan flinid hwy gan afiechydon hynod boenus, neu pan oedd raid wynebu perygl mewn brwydr, gwnaent i'r derwyddon aberthu bodau dynol yn aberth. Tybient na fedrid achub un dyn heb aberthu un arall yn ei le i'r duwiau. Yr oedd gan y genedl gyfan ei haberthau. Llenwid delw wiail anferthol â dynion byw; rhoddid hi ar dân, a llosgid y dynion yn aberth. Tybient mai yr aberth mwyaf dymunol gan y duwiau oedd llofruddion a lladron,-ond os na byddai digon o'r rhain, llenwid y ddelw â rhai diniwed.

Ar awr claddu, taflent bob peth oedd annwyl gan yr ymadawedig i'r tân, - hyd yn oed creaduriaid byw. Ac ychydig cyn amser Iwl Cesar, pan fyddai'r seremonďau claddu drosodd, llosgid y caethion a'r gweision anwylaf gan y marw, fel y dilynent ef i'r byd arall yr oedd y derwydd yn ceisio tremio iddo trwy'r tywyllwch mawr.

Y mae olion aberthu adeg gwneud adeilad neu bont yng Nghymru eto. Yn un o lecynnau mwyaf anghysbell Ceredigion y mae un bont yn cael ei galw eto ar enw un o'r duwiau y tybid ei fod yn gofalu am bontydd, - Pont y Cwr Drwg. Dywed yr hanes mai efe ei hun a'i cododd. a'i fod wedi gofyn aberth i'r