Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac ymdyrrai gwŷr ieuainc y gwledydd i'w hysgolion. Hawdd ydyw gweled oddi wrth hyn eu bod yn uchel ym meddyliau'r bobl, ac mewn anrhydedd mawr. Hwy oedd barnwyr y wlad; os cyflawnai rhywun drosedd, os llofruddid neb, os byddai ymrafael am etifeddiaeth neu am derfynau, - y derwyddon fyddai'n cyhoeddi'r gyfraith ac yn dyfarnu'r gosb. Os gwrthodai neb dderbyn eu cosb neu eu cerydd, boed ef un enwog neu un dinod, un cyhoeddus neu anghyhoedd, gwaharddent iddo ddod i'r aberthau. Yr ysgymundod hwn oedd eu penyd eithaf; a buan y teimlai'r ysgymunedig mai penyd annioddefol oedd, - cyfrifid ef ymysg yr euog ar annuwiol, gochelai ei gyfaill gorau ef fel un heintus, nid oedd cyfraith a'i hamddiffynnai, ac ni ddisgynnai un anrhydedd i'w ran. Eisteddai'r derwyddon mewn man canolog, mewn llecyn cysegredig, a doi'r rhai oedd a chŵyn atynt o bob cyfeiriad.

Yr oedd yr offeiriaid hyn yn un dosbarth annibynnol, dan lywodraeth un archdderwydd. Y derwydd pwysicaf ymysg y derwyddon oedd yr archdderwydd. Weithiau cymerai un ei le yn naturiol fel archdderwydd ar farwolaeth y llall, dro arall byddai etholiad cynhyrfus, ac weithiau ymleddid âg arfau am y lywyddiaeth bwysig hon.

Yr oedd gan y derwyddon lawer o freintiau. Ni ofynnid iddynt ymladd mewn rhyfel, ni osodid treth arnynt, a medrent ymgadw, os mynnent, oddi wrth bob dyletswydd gwladol. Yr oedd eu breintiau'n tynnu llawer atynt, o'u gwirfodd neu drwy gymhelliad eu rhieni, i dreulio eu dyddiau wrth draed athrawon, yn lle mentro eu bywydau yn rhyfeloedd aml a ffyrnig yr amseroedd hynny. Eisteddai rhai wrth draed y derwydd am ugain mlynedd. Defnyddid ysgrifen mewn materion gwladol; ond mewn materion crefyddol, nid oedd lyfr i fod ond y cof. Dysgid miloedd o adnodau a phenillion. Tybient y collent eu