Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/127

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CROMLECH YN NYFED

PENNOD XI - YR HEN GREFYDD

YN hanes rhyfeloedd Iwl Cesar, a ysgrifennwyd ganddo ef ei hun, rhoddir darluniad o grefydd Celtiaid y cyfandir, a gallwn ei gymeryd, hefyd, fel darlun o grefydd Cymru. Yr oedd y bobl dan awdurdod dau fath o lywodraethwyr, - y tywysogion, yn meddu gallu'r byd hwn; a'r derwyddon, yn meddu gallu dieithr ac ofnadwy y byd arall. Gwaith y derwyddon oedd arolygu pob peth crefyddol, gofalu am yr aberthau wneid ar ran gwlad neu ŵr, ac esbonio egwyddorion crefydd. Hwy oedd athrawon yr ieuanc,