Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi ei gwymp ef gadawyd Cymru'n wan ac yn rhanedig fel o'r blaen. A phan nad oedd amddiffynnydd, yr oedd y Norman yn parotoi i gyrchu tua dyffrynnoedd mwyaf dymunol Cymru, Efe oedd yr olaf i ddod i'r mynyddoedd, a chyda'i ddyfodiad ef dechreua cyfnod newydd yn ei hanes.

NODYN VII.

Gyda chwymp Gruffydd ab Llywelyn yn 1063, cawn ddiwedd cyfnodau cyntaf a thywyllaf hanes Cymru. Gallesid meddwl fod Cymru, wedi ei farw ef, at drugaredd Saeson. Wessex. Ond yn 1066 daeth William, y gorchfygwr Normanaidd, a darostyngodd Loegr iddo ei hun rhwng 1066 a 1087. Dechreuodd ei farwniaid orchfygu Cymru hefyd. Ond, fel y cododd Llywelyn ab Seisyll a Gruffydd ab Llyweiyn yn erbyn y Saeson, cododd Gruffydd ab Cynan a Gruffydd ab Rhys yn erbyn y Normaniaid. Mewn cyfnod wedyn, pan aeth y Saeson ar Normaniaid yn un bobl, arweinid y Cymry gan Owen Gwynedd, Llywelyn Fawr, a'r Llywelyn Olaf. Mewn cyfnod wedi hynny, pan geisiai'r Cymry gyfiawnder fel deiliaid brenin Cymru a Lloegr, arweinid hwy gan Owen Glyn Dŵr.

Fel yr awn ymlaen, daw hanes Cymru'n llai politicaidd, ac yn fwy cymdeithasol a llenyddol. Yn y rhan nesaf o'r hanes, rhoddir cipolygon amlach ar fywyd yr hen Gymro yn ei gartref.