Pen a tharian ac amddiffynnwr y Cymry oedd y gŵr laddwyd drwy dwyll ei wŷr ei hun. Y gŵr a fuasai anorchfygedig cyn hynny, yr awr hon a adewid mewn glynnoedd diffaith, wedi dirfawr anrheithiau a buddugoliaethau difesur, wedi aneirif oludoedd, - aur ac arian a gemau a gwisgoedd porffor.
Syrthiodd ei wraig yn anrhaith i Harold, yr hwn a'i priododd. Rhannwyd ei deyrnas, oedd wedi uno trwy gymaint gallu, rhwng dau hanner brawd iddo, - Bleddyn a Rhiwallon, meibion Cynfyn. Ond yr oedd y rhain yn talu treth a than warogaeth, ac nid fel Gruffydd ab Llywelyn.
Yr oedd diwedd truenus Gruffydd ab Llywelyn, ar ôl ysblander ei deyrnasiad, yn ddigon i ennyn tosturi hyd yn oed ei elynion. Yn hanes ei gwymp y mae ffawd fel pen cellwair â'r buddugwr, - buasai'n dda i Harold ei orchfygwr wrtho ymhen y tair blynedd. Cawsai Harold ei gymorth cyfamserol i wrthwynebu'r Normaniaid.
Edrychir ar Ruffydd ab Llywelyn gan haneswyr y Saeson, o'i oes ei hun hyd ein hoes ni, fel un o frenhinoedd galluocaf y Cymry. Yr oedd ef yn frenin ar holl hil y Cymry, ebe croniclydd ysgrifennai newydd glywed am ei farw. [1]. "Lladdwyd Gruffydd fab Llywelyn, ardderchocaf frenin y Brytaniaid, ebe croniclydd Normanaidd oes wedi hynny, drwy dwyll ei wŷr ei hun". [2] "Efe oedd y pennaeth Cymreig olaf", ebe hanesydd gor-Seisnig sydd newydd huno, "i'w enw fod yn wir ddychryn i glustiau Seisnig".[3]