Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/124

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gartref yn ystod y rhyfel; ac yn Rhuddlan, yn nyffryn Clwyd, yr oedd cartref Gruffydd ab Llywelyn. Medrodd Harold gyrraedd Rhuddlan yn ddiogel yng nghanol y gaeaf, ond methodd gyrraedd ei amcan. Er mor annisgwyliadwy y daethai Harold, medrodd Gruffydd ddianc i'r môr yn ei long. Cysur gwael i Harold oedd llosgi cartref y brenin Cymreig, a chychwynnodd yn ei ôl cyn i'r plas a'r llys orffen llosgi.

Wedi methu yn yr amcan hwn, penderfynodd Harold ymosod ar Gymru o'i chwr, a'i gorchfygu. Cychwynnodd ef ei hun o Fryste, gan arwain ei lynges ar hyd traeth Cymru i'r gogledd. Ac o'r tir yr oedd byddin o wŷr Northumbria, dan ei frawd Tostig, yn dod i'w gyfarfod. Canmolir llawer ar Harold am y gwaith hwn; ond cofier fod Gruffydd dan anfantais fawr. Yr oedd gan Harold fyddin fawr yn barod i'w ddilyn bob dydd o gwmwd i gwmwd yng Nghymru, ac yr oedd yn cael dewis ei fan i ymosod. Ond peth anodd iawn i Ruffydd oedd cadw byddin digon cref i wrthsefyll Harold ymhob man y disgwylid ymosodiad. Crwydrodd Harold a'i fyddin drwy Gymru, dan orchfygu byddinoedd bychain, a chan ladd yn ddidrugaredd. Yma y gorchfygodd Harold oedd yr ymadrodd adawodd ar lawer carreg o'i ôl.

Yr oedd Cymru'n anrheithiedig, ond ni fedrai Gruffydd ab Llywelyn roddi byddin ddigon cref i orchfygu Harold ar y maes. Gwyddai y byddai raid i Harold droi'n ei ôl cyn hir, ac yna gallai ei ddilyn ac ymosod ar ei lu wrth iddo encilio. Ond yr oedd amynedd y Cymry'n fyrrach nag amynedd eu brenin, ac nid oeddynt yn gweld mor bell. Tybient mai oherwydd ystyfnigrwydd eu brenin y daliai'r Saeson i'w hanrheithio o'r Mai hyd yr Awst hynny. Ac aeth rhyw fradwyr a lladdasant eu brenin, er mwyn cyhuddo'r Saeson. A dyna ddiwedd un o frenhinoedd galluocaf Cymru ar galan Awst, 1063.