Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

at ei drugaredd. a gorfod i'r Saeson gynnig amodau heddwch. Gwnaed yr heddwch hwnnw yn 1054, a chafodd Gruffydd ei amcan, - rhoddi Aelfgar, ei dad yng nghyfraith, yn iarll Mercia.

Ymhen dwy flynedd yr oedd Gruffydd yn cychwyn tua Henffordd drachefn. Gwnaed pob ymdrech gan y Saeson i'w wrthsefyll, ond ni safai dim o'i flaen. Enillodd frwydr fawr, cwympodd esgob Henffordd a'r sirydd ynddi, a gorfod gwneud heddwch â Gruffydd ar ei delerau ei hun. Am chwe blynedd wedi hyn, yr oedd yn frenin Cymru; a phrin y medrai holl nerth Lloegr wneud dim iddo. Yr oedd mewn cyfamod â'r Daniaid, ac yr oedd ganddo lynges ei hun, felly gallasai ymosod ar Gaer Loew o'r tir neu o'r môr. Yr oedd Aelfgar, iarll Mercia, mewn cynghrair cadarn âg ef; a phan fedrodd Harold yrru Aelfgar ar ffo o'i dalaeth yn 1058, buan y rhoddodd Gruffydd ef yn ei ôl.

Yr oedd Harold yn rheoli Lloegr erbyn hyn, er fod Edward frenin eto'n fyw. Ac yn 1062 dechreuodd yr ymdrech rhwng Harold a Gruffydd ab Llywelyn, rhwng Lloegr a Chymru.

Gruffydd ymosododd gyntaf. Cychwynnodd i Loegr: a phan ddaeth Harold i'w gyrraedd, ni chynhigiai frwydr. Gwyddai Gruffydd nad oedd bosibl i'w Gymry ef, heb ddim ond gwaywffyn, wrthsefyll y traed-filwyr Seisnig yn eu haearn-wisg trwm. A gwyddai Harold na fedrai orchfygu Gruffydd heb fedru dal ei fyddinoedd o filwyr cyflym. Penderfynodd Harold arfogi ei wŷr fel yr arfogai Gruffydd ei wŷr yntau - gydag arfau digon ysgafn iddynt fedru symud mor gyflym â'r Cymry. Wedi gwneud hyn, treiodd Harold ddau gynllun i ddinistrio gallu Gruffydd ab Llywelyn.

Y dull cyntaf oedd hwn.- teithio'n gyflym ar hyd Cymru, a dal Gruffydd yn ei gartref, a'i ladd cyn i'w filwyr fedru ymgasglu. Caer Loew wnaeth Harold