Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Er marw o Hywel, nid oedd Gruffydd ab Llywelyn i gael y Deheubarth heb ymdrech arall. Yr oedd meibion Edwin wedi gyrru meibion Rhydderch, - Gruffydd a Rhys,-o'u gwlad, gan deyrnasu yn eu lle. Wedi clywed am farw mab Edwin yn Aber Tywi, daethant i'r Deheubarth. Ond, trwy gymorth y Saeson, gorchfygodd Gruffydd ab Llywelyn hwy, a gorfod iddynt fyned ar ffo drachefn. Er hynny nid oedd derfyn ar lid gŵyr y De yn erbyn un aethai i gyfamod â'r Saeson fu'n elynion iddynt er ys canrifoedd. Lladdwyd gwŷr Gruffydd drwy dwyll yn Ystrad Tywi, a diffeithiodd Gruffydd ab Llywelyn y fro i ddial ei wŷr. Daeth Gruffydd ab Rhydderch a'i ladron cyflogedig i ddiffeithio Dyfed hefyd. Ac ar y Deheubarth difrodedig disgynnodd eira mawr yr amser hwnnw, gan aros o galan Ionawr hyd ŵyl Badrig.

Gwaith nesaf Gruffydd ab Llywelyn oedd cadarnhau Cymru yn erbyn Lloegr. Yr adeg honno yr oedd gallu Wessex yn cynyddu bob dydd, dan lywodraeth teulu uchelgeisiol ac athrylithgar Godwin. Yr oedd yn amlwg mai Harold, fab Godwin, fyddai Brenin Lloegr wedi marw'r Edward dduwiol oedd yn hanner cysgu ar yr orsedd yr adeg honno. Ac yr oedd yn amlwg y ceisiai ddarostwng yr holl ynys.

Gwelodd Gruffydd mai'r peth gorau iddo ef oedd ail godi teyrnas Mercia, i rannu'r Saeson yn eu herbyn eu hunain. Yr oedd Aelfgar, mab Leofric, yn alltudiedig gan deulu Godwin er 1039. Yr oedd hen gynnen rhyngddo â Gruffydd, oherwydd syrthiasa [CySill : xxx]'i ei ewythr Edwin ym mrwydr Rhyd y Groes. Ond aeth y ddau hen elyn i gyfamod; a phriododd Gruffydd ferch brydferth Aelfgar, - Eadgyth, - yr hon oedd wedi syrthio mewn cariad âg ef. Yna dechreuodd Gruffydd ymosod ar Loegr. Ciliodd y Saeson o'i flaen, yn ieirll a milwyr, yn waradwyddus, wedi brwydr chwerwdost. Yr oedd Henffordd a Llanllieni