Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/136

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

môr i gydymgynghori â'u brodyr ynghylch materion eu ffydd. Ceir eu hanes mewn cyngor ar ôl cyngor, a phob amser ar ochr yr uniongred. Yr oedd tri esgob Prydeinig yng Nghyngor Arles yn 315. A phan gododd yn ymryson chwerw ynghylch natur y Drindod, cawn Brydeiniwr bron ymhob Cyngor o bwys. Yr oedd esgobion Prydeinig yn Nicea yn 325, pan oedd Athanasius yn amddiffyn y ffydd yn erbyn heresïau newyddion; a chawn hwynt yn unfryd â'u brodyr ar y cyfandir, ac yn trefnu eu heglwys a'u ffydd yn yr un modd. Erbyn 400 yr oedd Prydain yn un o wledydd cred. Yr oedd eglwysi yma ac acw ynddi, yr oedd allorau Duw ymysg allorau drylliedig yr hen dduwiau. Yr oedd sôn am demlau rhyfedd; dywed Ierom yn 388 fod llawer yn sôn am deml Duw, a gofyn iddynt gofio geiriau'r apostol, - Oni wyddoch chwi mai teml Duw ydych, a bod ysbryd Duw yn trigo ynoch? Ac yna, meddyliodd fod yr hanes wedi mynd i bob man, fod yr efengyl yn allu yng Nghaersalem, lle y dioddefodd yr Iesu, ac ym Mhrydain, y lle pellaf oddi wrth Gaersalem, - O Gaersalem ac o Brydain y mae'r wlad nefol yr un mor agored; y mae teyrnas Dduw ynoch chwi. A thra mae Ioan Aurenau, tua 400, yn llawenhau fod Prydeiniaid fu'n bwyta cnawd dynol yn awr yn meithrin eu heneidiau trwy ympryd, dywed Ierom, - Un Crist addolir gan Brydain a Gallia, ac Affrig a Phersia, ar Dwyrain ac India, ac un rheol y gwirionedd sydd iddynt. Yr oedd y cymundeb agosaf rhwng eglwysi Prydain ac eglwysi'r Cyfandir, ac yr oedd pererinion Prydeinig yn cyfarfod pererinion o eithafoedd Persia yng ngwlad Canan. Cyfnod dedwydd i'r eglwys oedd hwn, cyfnod 11awenydd llwyddiant ac ieuenctid, cyfnod gobaith fedrai weled gwaith mil o flynyddoedd yn cael ei wneud mewn un dydd, cyfnod ffydd fedrai fwrw mynyddoedd i'r môr. Yr oedd Llydaw hefyd yn derbyn yr efengyl: a chyn 400