Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/137

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr oedd y Gwyddelod wedi cymeryd bachgen yn garcharor yn Ystrad Clwyd. A'r bachgen hwnnw oedd Padrig, apostol yr Iwerddon.

Yna daeth cyfnod o ofidiau i'r eglwys ieuanc. Rhwng 400 a 500 daeth heresïau i'w rhannu, a daeth y Saeson paganaidd i ymosod arni o'r tu allan. Cyn 415, yr oedd yr Eglwys Gristionogol yn gwybod am ddysgawdwr o Brydain, oedd wedi teithio trwy Rufain ac Affrica i Gaersalem, gydag efengyl newydd. Pelagius oedd ei enw; a chan mai Prydeiniwr oedd o genedl, mae rhai, gyda mwy o wladgarwch nag o wybodaeth, wedi tybied mai cyfieithiad o'r enw Morgan yw'r enw Pelagius. Dysgai Pelagius ryddid yr ewyllys, a chondemniwyd ef yn ddiarbed gan Ierom o'i gell ym Methlehem, a chan Awstin, y mynach sydd wedi goruwch lywodraethu cyhyd ar feddwl dyn. Y mae dwy ochr i'r gwirionedd.-annibyniaeth ac ufudd-dod, rhyddid ewyllys ac etholedigaeth, rhyddid cydwybod a chyfundrefn. Pregethai Pelagius y naill, pregethai Awstin y llall. Rhyddid crefyddol ydyw dyhead y Prydeiniwr erioed: am drefn anhyblyg, am un ffydd uniongred, am un Eglwys, y dyheai Rhufain. Yr oedd ysbryd ei oes yn erbyn Pelagius, medrodd Awstin gondemnio ei ddysgeidiaeth, nid fel hanner gwirionedd, ond fel heresi groes i'r gwirionedd; a medrodd ddefnyddio grym y gallu gwladol i erlid disgyblion y Prydeiniwr. Ymosodwyd ar ei heresi yn ei wlad enedigol. Yn 429 daeth Germanus a Lupus, - Garmon a Bleiddian, - esgobion Auxerre a Troyes, i bregethu yn erbyn Pelagiaeth ym Mhrydain. Daeth cynulliad enfawr i'w cyfarfod i Verulanium, a dywed eu brodyr yn y ffydd i'w hyawdledd orchfygu eu gwrthwynebwyr yn llwyr. Dywed traddodiad iddynt fod yng Nghymru, ac y mae yn ddiamau fod iddo sylfaen o wirionedd. O'r cyfarfod mawr yn Verulanium, aeth y ddau esgob ymlaen i'r gogledd orllewin, hyd nes y daethant i lannau'r