Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/138

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ddyfrdwy ac i fro'r Alun. Tra yn pregethu yno, daeth y newydd fod y Pictiaid barbaraidd ar ymosod arnynt. Arweiniodd Garmon ei disgyblion yn erbyn y gelyn, a ffodd y gelyn wrth eu clywed yn bloeddio "Haleliwia", - gair eu gorfoledd, - a'r bryniau yn eu hateb. Llwyddodd y disgyblion yn eu neges; dros gan mlynedd wedi eu dod, y mae Gildas yn sôn am heresi Pelagius gyda'r casineb ar ddiystyrwch mwyaf. Ond, rhwng 450 a 500, dylifodd barbariaid Teutonaidd i ynys Prydain; daeth fel ffrwd dros ran ddwyreiniol yr ynys, gan ei thaflu'n ôl i baganiaeth, a chan wahanu eglwysi Cymru ar Iwerddon yn y gorllewin oddi wrth eglwysi'r Cyfandir. Rhwng 500 a 600 gadawyd eglwys y Cymry iddi ei hun, - yr oedd gwlad o farbariaid terfysglyd gelynol rhyngddi â Rhufain ac a Chanan, man geni a man trefnu y ffydd Gristionogol. Y canlyniad oedd, ymddadblygodd y ddwy eglwys mewn dulliau gwahanol; a phan ail gyfarfyddodd Cristionogion o Gymru a Christionogion o Rufain dan goeden dderwen yn rhywle yn nyffryn yr Hafren, darganfyddasant nad oedd eu ffydd mwyach yr un.

Nis gallasid disgwyl i Gristionogaeth Cymru ar Iwerddon a Christionogaeth Rhufain ddatblygu yn yr un dull. Yn y gwledydd Lladinaidd, yr oedd traddodiadau am drefn anhyblyg llywodraeth Rhufain yn gryfion iawn. Ond yng Nghymru, ac yn enwedig yn yr Iwerddon, yr oedd ysbryd annibyniaeth yn gryfach nag ysbryd trefn. Ar ffurf llywodraeth berffeithiedig y tyfodd Cristionogaeth, - yn fuan iawn ffurfiwyd yr eglwysi'n esgobaethau, yr esgobaethau'n arch esgobaethau, ac unwyd yr holl gyfundrefn daclus dan lywodraeth esgob Rhufain, fel yr unid yr ymherodraeth dan lywodraeth ymerawdwr Rhufain.

Ond yng Nghymru ac yn yr Iwerddon, nid oedd datblygiad yr Eglwys mor rheolaidd, yr oedd yr holl drefniadau'n llawer mwy ystwyth. Ar anibyniaeth