llwythau, nid ar undeb ymerodraeth, yr oedd Eglwys Cymru ac Eglwys yr Iwerddon wedi eu sylfaenu. Llac iawn oedd yr undeb, yr oedd yr annibyniaeth yn gryf. Yr oedd llu o esgobion yng Nghymru fel mewn gwledydd eraill, ond y mae'n debyg mai pregethwyr enwocaf y wlad oeddynt; ac nid oedd y wlad wedi ei rhannu'n esgobaethau, ac un esgobaeth wedi ei rhoddi dan ofal neilltuol un dyn. Ni bu archesgob ar Gymru erioed.
Rhwng y blynyddoedd 500 a 600, yr oedd gan y saint ddau waith. Un oedd efengylu i'r rhai oedd eto'n baganiaid, - megis y Gwyddyl oedd yn eithafion Dyfed a'r Pictiaid oedd yn parhau i ymwthio o fynyddoedd yr Alban tua'r de. A'u gwaith arall oedd cadw ysbryd Cristionogaeth yn fyw yn ystod cyfnod o ryfeloedd gwaedlyd. Aml iawn y cawn hanes sant yn ceryddu brenin.
Y prif saint oedd Dyfrig, gysylltu'r â Llan Daf ac a fu farw, meddir, yn ynys Enlli; Deiniol, yng Ngwynedd; Cyndeyrn, ym Mhowys; Gwynllyw, tywysog Gwynllwg ym Morgannwg; Catwg, ei fab; Illtyd; Samson, aeth wedi hynny i Ddôl Llydaw; Cybi yn ynys Môn; Dewi yn Nyfed; Teilo ym Morgannwg: a Phadarn yng Ngheredigion. Y rhai hyn roddodd i'r efengyl lwyr fuddugoliaeth yng ngwahanol rannau Cymru. Cenhadon oeddynt, wedi eu geni yn Llydaw neu yng Nghernyw neu yng Nghymru ei hun.
Yn ystod y ganrif hon, dechreuwyd edrych ar y sant enwocaf ym mhob teyrnas yng Nghymru fel esgob y deyrnas honno. Yr oedd mynachdy,- teulu o wŷr crefyddol, - ym mhob teyrnas; ac o dipyn i beth, daeth pen y teulu hwn yn esgob y deyrnas. Edrychid ar deyrnas Gwynedd, mewn ystyr eglwysig, fel esgobaeth Bangor: a Deiniol, fu farw yn 584, roddir yn esgob cyntaf iddi. Yn raddol edrychid ar Bowys fel esgobaeth Llanelwy; a Chyndeyrn, medd