Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/140

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

haneswyr y ddeuddegfed ganrif, a wnaeth yr esgobaeth. Dyfed, gyda'i therfynau symudol, ddaeth yn esgobaeth Tyddewi; Ceredigion oedd esgobaeth Llanbadarn. Bu Brycheiniog, hwyrach, yn esgobaeth iddi ei hun, - esgobaeth Llanafan. Daeth Gwent a Morgannwg yn esgobaeth Llandaf; ond hwyrach fod Morgannwg hefyd wedi bod unwaith yn esgobaeth iddi ei hun, - esgobaeth Margam.

Tra'r oedd Eglwys y Cymry'n ymffurfio fel hyn, yr oedd y Saeson yn derbyn yr efengyl, a daeth Cristionogion y gorllewin a Christionogion Rhufain i gyffyrddiad â'u gilydd drachefn. Ond erbyn hynny prin yr oeddynt yn adnabod eu gilydd. Yr oedd Eglwys Rhufain dan unbennaeth Pab erbyn hyn; ond yr oedd annibyniaeth yr eglwys gyntefig eto'n feddiant i'r Cymry. Ac yr oedd llu o fân wahaniaethau, - nid yr un oedd amser eu Pasg; nid yr un oedd eu cyfieithiad o'r Beibl; nid oedd eilliad eu mynachod yr un,-eilliai'r Rhufeiniwr ei goryn, a'r Prydeiniwr ei dalcen; nid oedd dull y bedydd yr un, na dull ordeinio esgob. A chyfarfod rhyfedd oedd cyfarfod cyntaf y cefndryd fu gynt yn frodyr yn y ffydd.

Awstin Fynach, abad mynachdy Andreas Sant yn Rhufain, a ddaeth yn genhadwr dros y Pab at Saeson ac Eingl paganaidd Lloegr. Cychwynnodd yn 595, ond trodd yn ei ôl. Ail gychwynnodd yn haf y flwyddyn wedyn, a chyrhaeddodd oror Caint yn 597. Yr oedd tua deugain o gyd - grefyddwyr gydag ef, ac ymysg y cyfieithwyr yr oedd rhai o'r un iaith ar Saeson, - rhai wedi aros ar ôl eu brodyr ar y Cyfandir.

Unwaith gallasid meddwl fod Rhagluniaeth wedi bwriadu i Gregori ddod i efengylu i Loegr. Ond rhoddwyd gwaith mwy iddo, - efe drefnodd Eglwys y Gorllewin ac a sylfaenodd Babaeth y canol oesoedd, y Babaeth wnaeth ddaioni mor ddifesur cyn ymddirywio. Mewn adegau pwysig a rhyfedd yn unig yr