Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/141

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymddengys dynion fel Gregori Fawr. Mewn byd drwg, mewn amser anfoesoldeb yn dilyn rhyfeloedd, yr oedd yn bosibl cael sêl mor danllyd â hunanaberth mor lwyr. Dechreuodd Greogri fel mynach, drwy gwbl orchfygu ei nwydau ei hun, a chyflwyno ei enaid, - heb chwant ac heb gariad at ddim darfodedig, - i'w Dduw. Yn nistawrwydd a thawelwch mynachdy Andreas bu'n ymladd a phob temtasiwn fedrai dychymyg nerthol greu, gan feddwl mai gwaith ei fywyd oedd achub ei enaid ei hun i Grist. Ond ryw ddiwrnod cerddodd allan i'r farchnad brysur. Ac ymysg y pethau oedd ar werth wele blant bychain o Eingl wedi eu cludo o Loegr i farchnad Rhufain. Fel pob un wnaeth ei ôl ar y byd, yr oedd gan Gregori hoffder at wyneb plentyn. Nid Eingl, ond engyl, meddai, wrth edrych ar lygaid gleision a gwallt euraidd y Saeson bach; a phenderfynodd gychwyn i'w hynys i bregethu Crist i'w cydgenedl. Cafodd ganiatâd y Pab, ac yr oedd wedi teithio tri diwrnod pan ddaeth negesydd buan i'w alwn ôl. Yr oedd i wneud gwaith mwy pwysig. Efe oedd i fynd i Gaercystenyn i gymodi ymerawdwyr, i gasglu byddinoedd i wrthsefyll y Lombardiaid annynol a heintus, ac efe oedd i drefnu Eglwys Rhufain, i estyn ei therfynau, ac i'w hamddiffyn.

Un arall ddaeth i Loegr, ac yr oedd Awstin yn llai dyn na Gregori. Yr oedd yn hoff o ddangos ei awdurdod, ac mewn rhwysg y dygodd yr efengyl i'r Saeson. Effeithiodd y rhwysg hwnnw ar feddyliau'r brenhinoedd Seisnig, ond bu'n achos rhwyg am ganrifoedd rhwng Eglwys Rufain ac Eglwys y Cymry. Cariai ei genhadon groes arian o'i flaen yn lle baner, a darlun o'r Iesu, a chanent. Llwyddodd yn rhyfedd ac yn fuan; ac erbyn 603 y mae'n hawlio awdurdod ar esgobion y Cymry yn y gorllewin.Tua 603 teithiodd i gyffiniau Cymru. Mewn lle adwaenid yr oes wedyn wrth yr enw Derwen Awstin,