Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/142

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

galwodd ar brif wŷr eglwysig y rhannau Cymreig agosaf -esgobion a gwŷr dysgedig Gwent,-a gofynnodd iddynt gydymffurfio â defodau Eglwys Rhufain, a gadael eu hen ddefion eu hunain. Ni thyciodd na dadl nac erfyn na bygwth; ni fynnai'r Cymry ymwrthod â dull ffydd eu tadau. A gwaith oesau wedyn oedd llethu annibyniaeth eu heglwys.

Yn 739 y mae'r pab Gregori III yn condemnio cenhadon Cymreig fel hereticiaid. Ond erbyn tua 800 y mae esgobion Cymru wedi cymodi â Rhufain, trwy Elfod, archesgob Gwynedd. Ond ni fynnai esgobion eraill Cymru gydnabod uchafiaeth esgob Bangor lle yr oeddynt eu hunain yn archesgobion hŷn o fraint.

Ymdrech nesaf esgobion Cymru yw bod yn annibynnol ar bob man ond Rhufain. Yr oedd Caer Gaint yn dechrau hawlio uchafiaeth arnynt.