Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/143

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHWNG boreu eu hanes a 1063, y mae mynyddoedd Cymru yn agos iawn i'r pethau ydynt heddyw. Yr oeddynt yn uwch o ryw ychydig, y mae rhew'r gaeaf yn malurio rhywfaint arnynt o hyd. Ac yr oedd mwy o goed arnynt o,lawer. Derw, gwern, helyg, bedw, y llwyfen, ffynidwydd, collwydd, ffawydd, - safent oll yn y dyffrynnoedd ac ar ochrau'r mynyddoedd, fel y gallai gwiwer fynd o'r naill ben i'r wlad i'r llall heb daro ei throed ar lawr. Yr oedd llwyni tewion o goed eirin perthi ac o fafon hyd ochrau'r drymiau. Dringai'r gwynwydd aroglus ar eiddew hyd y llwyni o ddrain duon a gwynion. Addurnid y mynyddoedd â rhedyn a grug, ac ag ysblander melyn eithin a banadl. Yr oedd yr aeron newydd ddod hefyd, a'r pren ceirios, a'r pren gellyg.

Yr oedd yr arth yn prysur ddiflannu, ond yr oedd heidiau o fleiddiaid newynog yn chwilio am eu hysglyfaeth, ac yr oedd yr afancod cywrain yn gwneud eu tai yn yr aberoedd. Yr oedd yr eryr brenhinol i'w weled yn aml hefyd. Yr oedd ein cyndadau wedi dofi pob anifail syn ddof yn ein plith ni heddyw, - y march, y fuwch, yr afr, y ddafad, y ci. Y pethau olaf ddofwyd, mae'n debyg, oedd moch a gwenyn, oherwydd y mae traddodiadau am eu dyfodiad hwy. Credid mai o'r nefoedd y daeth y gwenyn, a chyfeiria Dafydd ab Gwilym at y dyb hon yn y canol oesoedd wrth ddarlunio'r plu eira'n disgyn, -

Trwy Wynedd y trywenynt,
Gwenyn o nef, gwynion ynt.