Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/144

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond o le arall y tybid fod moch wedi dod. Ym mabinogi Math fab Mathonwy, ceir ymgom rhwng Math a Gwydion ab Don. Arglwydd, ebe Gwydion, im a glywais ddyfod i'r deheu ryw bryfed na ddaeth i'r ynys hon erioed o'r blaen. Beth yw eu henw ? Hobau, arglwydd. Pa fath anifeiliaid ydynt? Anifeiliaid bychain, gwell eu cig na chig eidion; y mae gwahanol enwau arnynt, moch y gelwir hwy weithiau. Pwy pia hwy? Pryderi fab Pwyll: anfonwyd hwy iddo o Annwn, gan Arawn frenin Annwn.

Hanes concwest, gan mwyaf, yw hanes y cyfnodau cyntaf hyn. Daeth ton ar ôl ton o genhedloedd i fynyddoedd Cymru, - gyda iaith a phryd a chrefydd ac arferion newydd bob tro, - a gorchfygai'r genedl newydd yr hen. Collid llawer o fywydau, mae'n sicr, ym mhoethder yr ymladd: ond, wedi'r frwydr, trigai'r gorchfygwr a'r gorchfygedig ynghyd. Deuai gwaed newydd i'r wlad, toddai y cenhedloedd i'w gilydd, a byddai'r genedl newydd yn gryfach na'r hen. Yng ngwythiennau'r Cymro puraf gall fod gwaed o anialdiroedd poeth y dwyrain a gwaed o wledydd eiraog y gogledd yn cyd - redeg.

Erbyn 1063 yr oedd y Cymry wedi siarad yr un iaith, ac wedi galw eu hunain ar yr un enw, am dros bedwar cant o flynyddoedd. Ond eto yr oedd yn hawdd gweled gwahanol haenau yn ffurfiad y genedl. Yr oedd gwahaniaeth mawr rhwng dosbarthiadau, ac yr oedd yn hawdd gweled fod y dosbarthiadau wedi bod unwaith yn genhedloedd gwahanol. Yr oedd pob cenedl o orchfygwyr wedi aros fel meistriaid y cenhedloedd gorchfygedig.

Yn y cyfreithiau Cymreig, - ac mewn cyfreithiau y cedwi'r hanes hwyaf, - y mae gwahaniaeth amlwg iawn rhwng dau ddosbarth. Nid ystyrrid fod gan