Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/145

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y taeogiaid Iberaidd deulu o gwbl, rhennid y tir rhwng pobl y fro, pa un bynnag a oedd perthynas rhyngddynt a'i peidio. Fel haid, nid fel tylwyth, yr edrychid arnynt i ddechrau gan eu gorchfygwyr, - moch Môn, geifr Arfon, gwybed Mawddwy. Ond yr oedd y bywyd tylwythol yn sylfaenu pob defod a braint ymysg y gorchfygwyr Celtaidd.

Ond er y darostwng a'r gorchfygu, yr oedd gogwydd bywyd y byd yn gryf yng nghyfeiriad rhyddid. Codai'r gorchfygedig ei ben drachefn, a graddol ddiflannai'r gwahaniaeth rhyngddo a'i orchfygwyr. Unid hwy gan fygythiad rhyw elyn newydd, ymasiai eu cyfreithiau, ymunai eu bywydau.

Gadewch i ni edrych ar deulu Cymreig yn y cyfnod hwn. Dacw'r tŷ ar ochr y mynydd neu ar ymyl y goedwig. Y mae ei un ystafell yn ddigon mawr i gynnal teulu cyfan. Adeilad ysgwâr neu grwn ydyw; wedi ei wneud o goed yn eu rhisgl neu wedi eu dirisglo. Plennid y coed ar eu pennau i wneud ochrau'r tŷ, yn nen iddo yr oedd canghennau plethedig dan faich o frwyn neu wellt. Ar ganol llawr y tŷ, y tu mewn, yr oedd y tân, - yn cynnau ddydd a nos. Oddi amgylch yr ochrau yr oedd gwely y teulu, ar yr hwn yr eisteddid y dydd ac y cysgid y nos. Rhwng cylch y gwely a'r tân yr oedd llawr wedi ei orchuddio â hesg. Hesg hefyd, mae'n debyg, oedd defnydd y gwely, ond fod math o frethyn cartref garw yn ei orchuddio. Yr oedd gan bob aelod o'r teulu ei le yn y gwely teuluaidd, ac ar hynny yr oedd ei holl freintiau yn dibynnu, - ei hawl i gael ei amddiffyn gan y teulu, a'i hawl i ran o gynnyrch y tir gwelyawg. Amser bwyd, cyfrannai pawb o gawl, cig, a bara ceirch, gan eistedd o gylch y tân. Gyda'r nos rhoid ychwaneg ar y tân, ac a'i pob un i gysgu i'w barth penodol yn y gwely. Gan fod pob un yn