Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/146

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

perthyn i'r gwelygordd, yr oedd ganddo hawl i ran o'r tir aradr, hawl i'r tir pori, a hawl i hela'r baedd gwyllt a'r llwynog a'r carw yng nghoedwigoedd y teulu. Ceir darlun, ym Mreuddwyd Rhonabwy, o hen dy adfeiliedig. Darlunni'r tri gŵr yn teithio ar lethrau mynyddoedd Powys o flaen tymhestl. A gwelent o'u blaenau hen neuadd burddu, dal, union, a mŵg yn dod o honni ddigon ei faint. Pan ddaethant i mewn, gwelent lawr pyllog anwastad, a braidd y gellid cerdded ar hyd-ddo, gan mor lyfned oedd, a thail gwartheg ar hyd-ddo. Lle bynnag yr oedd twll, aid dros droed yn y dwfr ar dail cymysg. Yr oedd gwrysg celyn yn aml ar y llawr, a'r gwartheg wedi bwyta eu brig. Llychlyd a lledlwm oedd y parthau; ac yr oedd hen wraig yn y tŷ yn unig yn taflu ambell arffedogaid o us ar y tân, hyd nes nad oedd hawdd i ddyn yn y byd ddioddef y mwg hwnnw. Ac am y gwely, byrwellt dysdlyt chweinllyt oedd dan y lliain llwydgoch caledlwm.

Ond, cyn adfeilio, yr oedd y tŷ yn un cysurus ac eang; ac yr oedd llawer taeog yn hiraethu am hawl i berthyn i'r teulu urddasol breswyliai ynddo.

Arhosai'r teulu yn y tŷ hyd y drydedd genhedlaeth. Pan fyddai'r pen teulu farw, cymerid ei le gan y mab ieuengaf, a chodai'r brodyr eraill dai iddynt eu hunain ar rannau eraill o'r tir gwelyog. Ond yr oedd y tir yn aros yn eiddo cyffredin i'r teulu i gyd, - un cae wedi ei aredig gan aradr neu aradrau'r teulu. Eiddo'r teulu oedd pob eiddo hefyd, y teulu dalai'r ddirwy dros aelod bechasai yn erbyn y llwyth, y teulu a ddialai gam pob un ddrygid. Yr oedd y tir aradr wedi ei rannu'n erwau, a rhoddid ei ran o'r erwau i bob aelod o'r teulu.

Wedi marw'r brodyr, ail-rennid yr erwau rhwng cefndryd: ac wedi marw'r cefndryd, gellid rhannu eilwaith rhwng cyfyrdyr. Yna ystyrrid nad oedd y