Tudalen:Hanes Cymru (OME) Cyf I.pdf/147

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

teulu'n un mwyach, yr oedd wedi ymrannu'n wahanol deuluoedd, a chyn hir byddai'n llwyth.

Ond, er ymrannu, cofiai'r tylwythau eu bod o'r un gwaed. Pan ymosodai gelyn arnynt, ymunent oll dan un arweinydd. Gan eu bod yn byw'n wastad mewn ofn rhyfel, yr oedd yn rhaid wrth dywysog parhaus.

O oes i oes y mae'r da yn llwyddo, - undeb a rhyddid yn cyd - gryfhau, crefydd well a moes mwy pur, amcanion uwch a dynion gwell i'w sylweddoli, yn ofn Duw ac mewn cariad at ddyn.